Ym mis Mawrth, fe wnaethom gynnal ein digwyddiad Merched mewn STEM blynyddol, lle croesawyd disgyblion o Ysgolion Cyfun Gellifedw, Tregŵyr ac Ystalyfera i’n gweithdai Cynhyrchu Cyfryngau GiST. Cyn y gweithdy, cafodd y merched y dasg o ymchwilio i’w hysbrydoliaeth Menywod mewn STEM. Yn y gweithdy, cyflwynwyd disgyblion i’r ystafell gyfryngau o’r radd flaenaf ar gampws Prifysgol Abertawe a chawsant eu cyflwyno i wahanol cyfarpar ac offer a ddefnyddir wrth gynhyrchu cyfryngau.
Uchafbwynt y gweithdy oedd ffilmio fideos arddull podlediad, lle bu’r merched yn trafod eu hysbrydoliaeth Menywod mewn STEM a’r heriau y maent yn eu hwynebu fel menywod mewn STEM. Sbardunodd y trafodaethau hyn sgyrsiau ystyrlon, gan daflu goleuni ar y buddugoliaethau a’r rhwystrau a wynebwyd gan ferched yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd a ddominyddir yn draddodiadol gan ddynion. Yn dilyn y sesiwn ffilmio, dychwelodd y merched i Bencadlys Technocamps i ddysgu popeth am olygu fideo. Yma, dysgon nhw sut i gydosod ffilm, ychwanegu effeithiau a chreu straeon cymhellol.
Sbardunodd y gweithdai frwdfrydedd ymhlith y merched, gyda thrafodaethau yn troi at y posibilrwydd o gychwyn eu podlediadau eu hunain yn yr ysgol. Mae’r rhagolwg cyffrous hwn yn adlewyrchu’r effaith a’r ysbrydoliaeth a gynhyrchwyd gan ddigwyddiad GiST, gan feithrin ysbryd o greadigrwydd a grymuso ymhlith y merched.
Ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod gwych yn llawn dysgu, cydweithio ac ysbrydoliaeth. Wrth i ni fyfyrio ar lwyddiant digwyddiad GiST, edrychwn ymlaen at glywed mwy am y podlediadau ysgol a all ddeillio o’r creadigrwydd a’r brwdfrydedd a ysgogwyd yn ystod y gweithdai.