Mae Sean yn gweithio fel Partner Cwricwlwm Cyswllt (Digidol) ar gyfer Gwasanaeth Cyflawni Addysg De-ddwyrain Cymru (EAS), gan gefnogi pob ysgol ar draws ein 5 awdurdod lleol. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi ysgolion gydag arweinyddiaeth sgiliau digidol, darparu dysgu proffesiynol i ysgolion ar yr ystod o offer sydd ar gael ar Hwb a thrwy Apple, cefnogi gyda gwelliannau ysgolion ac yn y bôn unrhyw beth sy'n ymwneud â sgiliau digidol a thechnoleg! Mae’n hyrwyddwr angerddol dros dechnolegau digidol a’u defnydd dilys, pwrpasol yn yr ystafell ddosbarth i gyfoethogi addysgu a dysgu.
Cwrddon ni Sean am y tro gyntaf pan oedd yn athro dosbarth lle buom yn cefnogi ysgolion partner EAS gyda meddylfryd cyfrifiadurol a chyfrifiadureg. Mae'r Ysgolion Partner hyn bellach yn gallu darparu dysgu proffesiynol hynod soffistigedig a deniadol i ysgolion yn dilyn yr hyfforddiant hwn a gawsant.
Mae Sean yn amlygu bod y sgiliau a’r wybodaeth a ddarperir gan Technocamps yn eu hysgolion wedi datblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder pellach wrth gyflwyno agweddau Cyfrifiadureg y cwricwlwm. Mae ein hadnoddau ar-lein yn boblogaidd iawn gyda athrawon sy’n defnyddio rhain a i allu darparu cyfleoedd dilys o fewn y dosbarth. online resources are very popular among the teachers, who use these to provide authentic opportunities within the classroom.
“Mae Technocamps yn adnodd hanfodol ar gyfer cefnogi datblygiad meddwl cyfrifiadol a Chyfrifiadureg o fewn y cwricwlwm. Byddwn yn argymell yn gryf fod ysgolion yn ymgysylltu â Technocamps a’u hadnoddau i sicrhau eu bod yn fwy hyderus gyda’r agwedd hon ar y cwricwlwm.”