Rydyn ni'n cefnogi ymgyrch micro:bit y BBC i ysbrydoli pobl ifanc yng Nghymru i fwynhau STEM.
Mae’r BBC unwaith eto’n lansio ymgyrch micro:bit yn dilyn llwyddiant yr ymgyrch flaenorol yn 2015, a welodd filiwn o ddyfeisiau micro:bit yn cael eu darparu i ysgolion ar gyfer eu disgyblion Blwyddyn 7 ledled y DU.
Bydd yr ymgyrch newydd, BBC micro:bit – the next gen, yn canolbwyntio ar ddisgyblion 8-11 oed, gan ddarparu 700,000 o ddyfeisiau am ddim. Yn debyg i’r ymgyrch flaenorol, bydd Technocamps yn cefnogi drwy gyflwyno gweithdai micro:bit ar gyfer ysgolion cynradd ledled y wlad ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys synhwyro amodau amgylcheddol, arbrofi gyda dargludedd deunyddiau, annog arferion iechyd a lles da a mwy. Bydd cyfleoedd Dysgu Proffesiynol hefyd i athrawon cynradd ar ddefnyddio micro:bits ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad sy’n ffurfio’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae Research yn awgrymu bydd 65% o blant ysgol gynradd heddiw yn gweithio mewn swyddi nad ydynt yn bodoli ar hyn o bryd. Bydd BBC micro:bit – the next gen yn cefnogi plant ac athrawon ysgol gynradd yn y trawsnewid hwn i yrfaoedd digidol y dyfodol trwy gyflymu meddwl cyfrifiadurol, rhaglennu, creadigrwydd digidol a sgiliau dysgu peiriant.
Mae BBC Education, Micro:bit Educational Foundation, a Nominet yn bartneriaid ar y prosiect hwn.