Chris Owen yw dirprwy bennaeth ac athro Blwyddyn 4 yn Ysgol Gynradd Deighton yn Nhredegar, De Cymru.
Fel ysgol, maent wedi defnyddio arbenigedd Technocamps i gefnogi ac ehangu ar eu cwricwlwm Gwyddoniaeth a Thechnoleg ynghyd â chodi proffil gyrfaoedd o fewn STEM ar gyfer dysgwyr yn yr ysgol.
Mae Technocamps wedi galluogi'r ysgol i ddarparu sesiynau Gwyddoniaeth a Thechnoleg o ansawdd uwch oherwydd hyblygrwydd ac arbenigedd y cynrychiolwyr sy'n cyflwyno'r sesiynau, wrth uwchsgilio'r rhanddeiliaid.
Roedd sesiwn ddiweddaraf Ysgol Gynradd Deighton yn weithdy gyrfaoedd lle ranodd swyddogion addysgu Technocamps y rolau a chyfleoedd a fyddai ar gael i ddisgyblion Blwyddyn 6 ar ôl gadael ysgol. Roedd adborth gan y disgyblion yn gadarnhaol ac roedd llawer o drafodaeth ynghylch helaethrwydd y cyfleoedd a'r ffaith eu bod yn newid yn aml o fewn y sectorau STEM, yn ogystal â'r salariau uchel a allai gael eu hennill yn y swyddi.
Mae Technocamps wedi darparu cymorth i waith meddwl cyfrifiadurol yr ysgol; gan ddarparu plant gyda chyfleoedd i gael profiad o ddefnyddio, rhaglennu a defnyddio micro:bits. Mae dysgwyr iau Chris o fewn y cyfnod sylfaenol wedi gallu datblygu eu sgiliau codio drwy ddefnyddio Scratch Junio o fewn sesiwn hwylus a chyffrous.
Mae'r amrywiaeth o weithgareddau a sesiynau y mae Technocamps wedi darparu wedi cefnogi amserlen addasol a phrysur yr ysgol. Mae Technocamps wedi darparu Chris gyda sesiynau di-blwg – gweithgareddau â phapur nad sydd angen cyfrifiaduron, – gweithgareddau dadgan sy'n ymwneud â'u hastudiaethau o Ryfel y Byd, a gweithgareddau Lego sy'n cael eu defnyddio i wella sgiliau codio disgyblion hŷn yr ysgol.
Uchafbwynt ein gwaith gyda'r ysgol oedd gwobrwyo'r Ysgol Gynradd Deighton gyda'r wobr aur ar gyfer yr her Lego a gyflawnwyd gyda'r cynrychiolydd Vibushinie Bentotahewa. Roedd y disgyblion yn hapus iawn gyda'u gwaith a'r clod y derbynion nhw am eu hymdrechion.
“Mae Technocamps yn rhaglen gymorth ddigidol y byddai fy nghydweithwyr a fi wastad yn ei hargymell i eraill yn y proffesiwn addysgu a dysgu. Wastad yn hyblyg, yn gefnogol ac yn hynod gymwys; mae’r cynrychiolwyr sy’n cyflwyno yn darparu’r cyfleoedd dysgu gorau o fewn amgylchedd hwyliog, diogel a chynhwysol ac fel ysgol, rydyn ni'n gobeithio parhau â’n perthynas i’r dyfodol. Diolch"