Rydym wrth ein bodd i fod ymhlith y busnesau a’r unigolion mawreddog ar restr fer Gwobrau STEM Cymru 2022!
Fel sefydliad sy'n gweithredu dros Gymru gyfan, rydym ymhlith 34 o gwmnïau arloesol i gyrraedd rownd derfynol gwobrau hynod ddisgwyliedig eleni, sy’n dathlu’r rhai sy’n gwneud gwahaniaeth i, ac yn hyrwyddo, Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yng Nghymru.
Yn dilyn llwyddiant y gwobrau agoriadol, mae Gwobrau STEM Cymru yn ôl i dynnu sylw at y sefydliadau a'r unigolion sy'n gwneud gwahaniaeth i'r agenda STEM yng Nghymru.
Bydd y gwobrau’n dathlu’r rhai sy’n arwain y sector yng Nghymru, y busnesau sy’n creu effaith ar economi Cymru, y rhai sy’n mynd i’r afael â’r bwlch amrywiaeth STEM a phrinder sgiliau, a’r rhai sy’n ysbrydoli ac yn codi dyheadau’r genhedlaeth nesaf. Cyrhaeddodd Technocamps y rhestr fer yn y categori Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn – Sector Cyhoeddus, sy’n ceisio cydnabod menter sy’n mynd i’r afael â’r bwlch amrywiaeth STEM, y prinder sgiliau ac sy’n ceisio ysbrydoli a chodi dyheadau’r genhedlaeth nesaf.
Bydd pawb dros y 12 gategori nawr yn cael eu hystyried gan banel o feirniaid, sydd ar flaen y gad mewn diwydiant, a bydd enillion yn cael ei gyhoeddi yn y seremoni wobrwyo yng ngwesty Mercure Caerdydd ar 27 Hydref 2022.
Ers ei sefydlu yn 2003, mae gweithgarwch traddodiadol Technocamps wedi canolbwyntio ar ddarparu gweithdai ymarferol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru er mwyn annog disgyblion i astudio pynciau cyfrifiadurol a phynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch, a thu hwnt. Mae hefyd yn bwriadu gwrthsefyll y broblem gydnabyddedig mewn perthynas â grwpiau penodol o bobl ifanc – yn enwedig merched – sy'n ymddieithrio oddi wrth bynciau STEM yn y cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd.
Dywedodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps: “Rydym yn wirioneddol wrth ein bodd ein bod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Mae cael ein hystyried ochr yn ochr â rhai o'r mentrau mwyaf anhygoel yn y wlad yn gwneud i ni deimlo'n ostyngedig iawn, ac rydym yn falch iawn o gael y gydnabyddiaeth am y gwaith caled yr ydym yn ei wneud.”
Dywedodd cyd-sylfaenydd y gwobrau, Liz Brookes: “Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau STEM Cymru 2022. Gyda llwyddiant y gwobrau cyntaf yn wirioneddol amlygu gwaith anhygoel y sefydliadau a’r unigolion mwyaf blaengar sydd ar flaen y gad ym maes arloesi STEM yng Nghymru, rydym yn edrych ymlaen at gydnabod a dathlu’r rhai sydd wedi gwneud pethau trawiadol yn ystod y flwyddyn hon hefyd! Hoffem longyfarch pawb ar y rhestr fer ac edrychwn ymlaen at eu gweld i gyd yn y noson wobrwyo ym mis Hydref.."
Dywedodd Dr Louise Bright, prif beirniaid a sylfaenydd Rhwydwaith Menywod mewn STEM Cymru: “Mae Gwobrau STEM Cymru yn gwneud gwaith mor bwysig yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yng Nghymru. Eleni, yn union fel Gwobrau STEM cyntaf Cymru, rydw i wedi cael y fraint o ddarllen am y gwaith ysbrydoledig sy’n digwydd ledled y wlad. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r enwebeion a dysgu mwy amdanynt ac yn wahanol i’n blwyddyn gyntaf, dathlu eu llwyddiant yn bersonol yn y seremoni wobrwyo ym mis Hydref.”
Mae Gwobrau STEM Cymru yn cael eu trefnu ar y cyd gan Grapevine Event Management a'r asiantaeth gyfathrebu jamjar ac yn cael eu noddi gan y Ganolfan Ragoriaeth mewn Technoleg Symudol a Datblygol (CEMET), y Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Banc Datblygu Cymru, Newyddion Busnes Cymru, Addysgwyr Cymru, Linea Resourcing a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.