Ar Ddydd Mercher 6 Ebrill 2022, cynhalion ni rownd derfynol ein cystadleuaeth Game of Codes olaf ers 2019. Ar ôl dwy flynedd o ddigwyddiadau yn cael eu canslo oherwydd pandemig COVID-19, croesawyd hanner cant o ddisgyblion o bob rhan o Gymru i rownd olaf ein cystadleuaeth codio flynyddol yn adeilad Abacws newydd Prifysgol Caerdydd.
Eleni, gofynnon ni i gyfranogwyr greu darn o feddalwedd o dan y thema Brwydro yn erbyn Newid Hinsawdd. Mae ein cystadleuaeth Game of Codes yn gyfle i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu, a gwaith tîm wrth wella eu gwybodaeth o raglennu cyfrifiadurol mewn ffordd hwyliog a dyfeisgar.
Yr her oedd creu darn o feddalwedd o dan y thema Brwydro yn erbyn Newid Hinsawdd a gwahoddwyd disgyblion i gystadlu fel tîm neu unigolion. Roedd angen i'r feddalwedd gael dyluniad gwreiddiol mewn unrhyw iaith godio (Scratch, Javascript, ac ati) ar ffurf gêm, gwefan, ap, cwis, neu animeiddiad.
Cyn y rownd derfynol, gofynnwyd i'r ymgeiswyr wneud cyflwyniad poster a chynnwys disgrifiad o sut y crëwyd y feddalwedd, pwy wnaeth beth a pha gamau a gymerwyd i greu'r dyluniad.
Yn ystod y rownd derfynol ar Ddydd Mercher, cymerodd ymgeiswyr ran mewn dau weithdy: un heb gyfrifiaduron ac un ar godio. Asesodd y beirniaid y gwaith yn seiliedig ar ba mor dda y gweithiodd y timau gyda'i gilydd, a oedd y feddalwedd yn arloesol ac yn greadigol, a sut roedd y cystadleuwyr yn targedu eu cynulleidfaoedd.
Derbyniodd y timau gorau wobrau Technocamps cyffrous gan gynnwys gwobr arbennig o wahoddiad VIP i ddigwyddiad swyddogol Lansiad Abacws a darlith gan y seren deledu a mathemategydd Hannah Fry ar Ebrill 27ain 2022. Yr enillwyr oedd:
Tîm Gorau – Global Village
Unigolyn Gorau – Henry Naylor
Gwaith Tîm Gorau - Cad Coders, Ysgol Gymunedol Llangattwg
Dewis y Bobl (a benderfynwyd gan y timoedd eraill) – Star Wars
Meddai beirniad Game of Codes, Dr Caatherine Teehan, "Rydw i wedi fy syfrdanu gan safon y ceisiadau, roedd penderfynu ar enillydd yn anhygoel o anodd!”
Da iawn i bawb a gymerodd rhan ac rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu i gystadlaethau Technocamps y dyfodol!