11.45am-1pm, Dydd Gwener 13eg Mai
Mae ein digwyddiadau WiST wedi'u hanelu at fenywod yn y sector technoleg (neu sydd â diddordeb brwd yn y diwydiant) i ddysgu gan fenywod ysbrydoledig eraill a rhwydweithio â phobl o'r un anian. Mae pob digwyddiad yn hollol rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd Llywodraeth Cymru.
Bydd ein digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal dros Zoom ar Ddydd Gwener 13th Mai. Bydd y sesiwn amser cinio yn darparu cyfle i glywed gan ein siaradwr, gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych a rhyngweithio gyda phobl debyg mewn amgylchedd anffurfiol.
–
Mae’r ffordd y mae pobl yn gwario yn newid, ac felly hefyd y Bathdy Brenhinol. Yn 2018 daeth Anne Jessopp yn Brif Weithredwr benywaidd cyntaf y Bathdy Brenhinol yn ei hanes 1,100 o flynyddoedd. Mae hi wedi arwain y gwaith o drawsnewid y busnes o fod yn wneuthurwr darnau arian i frand Prydeinig premiwm sy’n cynnig buddsoddiadau, nwyddau casgladwy a gemwaith moethus ar raddfa fyd-eang.
Bydd Anne yn trafod ei llwybr i ddod yn Brif Swyddog Gweithredol, yr heriau y mae wedi’u hwynebu, a sut y mae wedi arwain y busnes i addasu i’r byd busnes sy’n esblygu’n barhaus.