Mae Kane ac Abena yn ymgymryd â'u lleoliadau gyda Technocamps. Buom yn sgwrsio â nhw am eu brwdfrydedd dros dechnoleg a lle maen nhw'n gweld eu gyrfaoedd yn mynd ar ôl graddio…
Dywedwch ychydig amdanoch hunain.
Kane: Kane ydw i, cefais fy magu yn Llundain a symudais i Abertawe ar gyfer y Brifysgol, ac rwy'n hoff iawn o F1! Astudiais Gyfrifiadureg ar lefel TGAU a Lefel A, rydw i ar ganol fy ngradd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gwneud fy mlwyddyn lleoliad gyda Technocamps.
Abena: Rwy’n astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol East Anglia ac rwy’n gwneud fy lleoliad yn Technocamps fel Cynorthwyydd Addysgu.
Sut wnaethoch chi ddechrau ymwneud â chyfrifiaduron a beth wnaeth eich ysbrydoli i ddilyn y llwybrau rydych chi wedi'u cymryd?
Kane: Roeddwn i'n gwybod fy mod i'n hoffi cyfrifiaduron o oedran ifanc. Yn yr ysgol gynradd, TGCh oedd fy hoff wers bob tro, hyd yn oed os oeddwn ni'n dysgu i deipio neu ysgrifennu dogfen Word yn unig. Wedyn, roeddwn i wastad yn dangos diddordeb mewn cyfrifiaduron a thechnoleg ac es i i gymaint o glybiau TG â phosib. Yna, troiais at y rhyngrwyd i barhau i ddysgu.
Abena: Sylweddolais fy mod i eisiau mynd i mewn i'r diwydiant technoleg wrth chwarae gêm roeddwn i'n meddwl oedd angen gwelliannau i'w gwneud yn fwy hwylus. Wrth geisio darganfod i wneud hyn fy hun, darganfyddais yn fuan fod yna fyd cyfan o gyfrifiaduron nad oeddwn i eto wedi'i archwilio.
Beth oedd eich profiadau cyntaf o Technocamps?
Kane: Clywais am Technocamps yn fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol pan gafodd myfyrwyr gyfle i wneud cais i fod yn llysgenhadon. Wnes i erioed fynychu unrhyw weithdai Technocamps yn yr ysgol gan nad oedd dim byd tebyg i Technocamps yn bodoli yn fy ysgol yn ôl yn Lloegr.
Abena: Rydw i wastad wedi bod yn frwdfrydig am addysgu a gwella'r profiad addysg i fyfyrwyr gan fy mod i'n teimlo'r angen i ganiatáu i fyfyrwyr mwynhau dysgu yn yr un ffordd â fi. Dyma sut roeddwn i'n gwybod bod angen i mi ymuno â Technocamps pan welais yr hysbyseb swydd ar safle gyrfa fy mhrifysgol. Roeddwn i'n gwybod ei fod yn gyfuniad perffaith lle gallwn gyfuno fy mrwdfrydedd at addysg gyda fy mrwdfrydedd at STEM a chyfrifiadureg.
Beth yw eich hoff rannau o weithio gyda Technocamps?
Kane: Fy hoff ran yw cyflwyno gweithdai rhyngweithiol hwyliog i ddisgyblion ysgolion cynradd. Maen nhw wastad yn cymryd rhan yn y gweithgareddau, felly maen nhw'n cael hwyl ac yn cymryd llawer i ffwrdd o'r ychydig oriau rydyn ni'n treulio gyda nhw.
Abena: Y rhan orau o'r swydd yw rhyngweithio â gwahanol ddisgyblion a chael eu hysbrydoli i weld ochr cŵl STEM. Rydw i wrth fy modd yn arbennig yn gallu annog merched a'u gweld â diddordeb diffuant mewn cyfrifiadureg.
Pa ran o'r swydd yw'r mwyaf heriol i chi?
Kane: Y boreu cynnar! Ond mewn gwirionedd, y rhan fwyaf heriol yw cael myfyrwyr sydd eisiau eistedd yn y cefn a pheidio â gwneud dim i ymgysylltu â'r deunydd a gweld y gweithdy fel profiad cadarnhaol fel y gallant elwa ohono fel gweddill y dosbarth.
Abena: Rhan mwyaf heriol y swydd yw pan fydd rhai disgyblion yn dewis peidio ag ymgysylltu â'r gweithdy naill ai oherwydd diffyg diddordeb neu resymau eraill. Ond a dweud y gwir, anaml y mae hyn yn digwydd a phan fydd, rwy'n canolbwyntio ar roi fy ngorau a phrofiad cadarnhaol cyffredinol i'r dosbarth cyfan gan mai dyna y gallaf ei reoli.
Sut ydy Technocamps wedi'ch ysbrydoli i wneud mwy gyda chodio a rhaglennu?
Kane: Mae gweithio gyda Technocamps wedi fy nghyflwyno i ochr codio nad oeddwn wedi’i hystyried o’r blaen. Yn lle dysgu neu gymhwyso sgiliau cefais fy rhoi ar ochr arall y bwrdd a bu'n rhaid i mi ddefnyddio'r sgiliau roedd gen i i'w haddysgu a ddaeth hyn â lefel wahanol o ddealltwriaeth.
Abena: Rwy'n meddwl bod gweithio gyda Technocamps wedi tanio fy mrwdfrdydedd at ddysgu! Yn Technocamps, rydw i wastad yn dysgu pethau newydd ac mae'r arferiad o ddysgu yn bendant wedi fy ysbrydoli i ddysgu mwy o dechnolegau ac i ymarfer rhaglennu mwy.
Beth ydych chi wedi dysgu ers ymuno â'r tîm?
Kane: Gweithio yn Technocamps oedd fy mhrofiad cyntaf mewn swydd broffesiynol felly rydw i wedi dysgu llawer am sut mae sefydliad yn cael ei gynnal, ond y brif beth rydw i wedi dysgu yw sut i addysgu cysyniadau technegol i fyfyrwyr sydd â diffyg gwybodaeth yn y maes. Rydw i hefyd wedi dysgu sut i addysgu cysyniadau technegol i fyfyrwyr sydd â diffyg gwybodaeth. Ynghyd â hyn, rydw i wedi dysgu sut i wneud adnoddau addysgu effeithiol a sut i gynllunio a datblygu gweithdai.
Abena: Ar wahân i’r cysyniadau rydw i wedi’u dysgu o ganlyniad i gyflwyno gweithdai, rydw i wedi dysgu llawer o bethau gan aelodau’r tîm. I enwi rhai: gan Luke, rydw i wedi dysgu pwysigrwydd herio'ch hun. Mae gweld e'n astudio a bod yn Rheolwr, tra bod mewn band yn rhywbeth sy'n fy ysbrydoli i wthio fy hun i gyflawni fy nodau waeth pa mor anodd y maen nhw'n ymddangos. O Rama, rydw i wedi dysgu pwysigrwydd hunanymwybyddiaeth a bod yn lleisiol gan eu bod yn cyfrannu at fywyd boddhaus. O Toby, rydw i wedi cael fy ysbrydoli i ddod o hyd i lawenydd yn y broses o waith, ac o Kane, rydw i wedi dysgu i feddwl llai.
Sut byddwch chi'n defnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth rydych chi wedi'u hennill yn y dyfodol?
Kane: Ar ôl graddio, hoffwn i weithio mewn Diwydiant, yn benodol rhywbeth sy'n defnyddio neu ddatblygu technolegau cwmwl. Rwy'n credu bod y hyn rydw i wedi'u dysgu yn Technocamps i wneud sgiliau technegol yn fwy dealladwy i gynulleidfa lai technegol yn berthnasol i weithio gyda chleientiaid i nodi eu problemau'n well ac esbonio atebion rydw i'n eu creu.
Abena: Rwy'n gobeithio mynd i mewn i'r diwydiant technoleg (yn benodol peirianneg meddalwedd) ond gallaf weld fy hun yn addysgu (os oes unrhyw rolau ar gael gyda Technocamps yn y dyfodol, byddaf yn bendant yno!). Rwy'n gwybod bydd y profiadau (fel cynnal gweithdai a chynnal a chadw gwefannau), y wybodaeth a’r sgiliau rydw i wedi’u hennill yn Technocamps yn bendant yn fy nghefnogi ar hyd fy ngyrfa ac rwy’n dragwyddol ddiolchgar i Technocamps a’r tîm am ddangos i mi beth yw cael amgylchedd gwaith, swydd a thîm arbennig.