Mae ein hymrwymiad i ddarparu'r sgiliau y mae eu hangen ar blant i ddatblygu a thyfu yn parhau, ac rydym bellach yn cynnig clybiau codio ar ôl ysgol i blant 9-16 oed. Mae Technoclub yn gyfle i bobl ifanc ennill profiad cyfrifiadurol yn ystod sesiynau rhyngweithiol byw y tu allan i'r ysgol.
Mae'r clwb yn darparu sesiwn wythnosol am ddim lle bydd y disgyblion yn dysgu sgiliau Cyfrifiadureg newydd wrth weithio tuag at nod prosiect terfynol. Mae wedi'i hanelu at bob gallu, a'r cyfan y mae ei angen yw mynediad i'r rhyngrwyd. Nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad blaenorol o ran codio neu raglennu er mwyn ymuno â'r clwb.
Mae'r clwb yn wych ar gyfer y rheiny sydd wedi mynychu ein gweithdai mewn ysgolion, gan eu galluogi i feithrin eu sgiliau yn hawdd wrth eu pwysau ac mewn amgylchedd dysgu llai ffurfiol. Mae hefyd yn addas ar gyfer dechreuwyr llwyr gan fod y sesiynau wedi'u cynllunio'n fwriadol i ddarparu ar gyfer dysgwyr o bob lefel.
Mae Technoclub yn cael ei gynnal gan ein Swyddogion Addysgu profedig sy'n amnewid y dysgu felly mae pob sesiwn yn newydd.
Mae Technoclub yn cael ei gynnal trwy gydol tymor ar ôl ysgol ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener. Cofrestrwch ar gyfer un sesiwn yr wythnos yn unig.