Mis Hanes LGBT+: 10 Arloeswr Technoleg Dylanwadol

adminBlog

Ym Mis Hanes LGBT+, rydyn ni'n dathlu arloeswyr cyfrifiadureg yn y gymuned LGBT+.

Peter Landin
Astudiodd Peter Landin fathemateg ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle arweiniodd ei fewnwelediad y gallai rhaglenni cyfrifiadurol fod yn seiliedig ar resymeg fathemategol at ieithoedd rhaglennu y gellid eu deall yn gyffredinol gan wahanol beiriannau. Dyluniodd yr iaith raglennu haniaethol ISWIM a'r peiriant rhithwir SECD, y ddau ohonynt yn ddylanwadol yn natblygiad ieithoedd rhaglennu swyddogaethol fel SASL, Miranda, ML, a Haskell.

Roedd Landin yn briod ond roedd yn agored ddeurywiol, daeth yn rhan â'r Gay Liberation Front (GLF), ac roedd yn ymroddedig i actifiaeth hawliau hoyw. Cafodd ei arestio fel rhan o wrthdystiad GLF.

Alan Turing
Yr un mwyaf adnabyddus ar y rhestr, cyfeirir at Alan Turing yn aml fel “Tad cyfrifiadureg ddamcaniaethol a deallusrwydd artiffisial.” Roedd Turing yn crypt-ddadansoddwr ac yn fathemategydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lle torodd e seiffrau Almaenig yn broses llawer cyflymach ac yn y pen draw craciodd negeseuon cod rhyng-gipio a oedd yn golygu bod y Cynghreiriaid yn trechu'r Natsïaid. Ar ôl y rhyfel, datblygodd y syniad o ddeallusrwydd cyfrifiadurol artiffisial a datblygodd ddamcaniaethau sylfaenol sy'n sail i'n dealltwriaeth o Ddeallusrwydd Artiffisial heddiw.

Cafodd bywyd Turing ddiwedd trasig: arestiwyd ac erlynwyd am “anwedduster dybryd” pan ddarganfu awdurdodau ei fod yn hoyw, cyflawnodd hunanladdiad trwy amlyncu cyanid a bu farw yn 41 oed. Mae “Cyfraith Alan Turing” bellach yn derm anffurfiol ar gyfe gyfraith yn y Deyrnas Unedig a oedd yn pardwn ôl-weithredol i ddynion a rybuddiwyd neu a gollfarnwyd o dan ddeddfwriaeth hanesyddol a oedd yn gwahardd gweithredoedd cyfunrywiol.

Ysbrydolodd hanes ei fywyd y ffilm The Imitation Game, mae’n ymddangos ar nodyn £50 Banc Lloegr ac fe’i enwyd yn un o 100 o Bobl Pwysicaf yr 20fed Ganrif gan Time Magazine.

Sophie Wilson
Astudiodd Sophie Wilson Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle dyluniodd ficrogyfrifiadur i reoli porthiant buchod. Cyfrannodd at ddyluniad yr Acorn System 1 a'r sglodyn ar gyfer y BBC Micro. Mae Wilson yn fwyaf adnabyddus am ei datblygiad o brosesydd Acorn RISC Machine (ARM), sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw ym mron pob tabled, ffôn, teledu a theclyn arall. Yn y 1980au cynnar, datblygodd Wilson iaith raglennu hawdd ei defnyddio o'r enw BBC BASIC a oedd yn galluogi defnyddwyr i ddysgu cysyniadau rhaglennu syml mewn amgylchedd syml. Mae Wilson yn fenyw drawsryweddol, yn gymrawd o'r BCS, yn gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol, a dyfarnwyd CBE iddo yn 2019 am wasanaethau i gyfrifiadura.

Christopher Stratchey
Ysgrifennodd Christopher Strachey y gêm gyfrifiadurol gyntaf erioed a rhaglennu'r gerddoriaeth gyntaf a grëwyd gan gyfrifiadur. Datblygodd hefyd ddamcaniaethau a modelau sy’n sail i’r holl ieithoedd rhaglennu modern, gan gynnwys yr iaith raglennu CPL (rhagflaenydd i’r iaith C), a chwaraeodd ran bwysig yn y gwaith o greu cyfrifiadur Ferranti Pegasus yn y 1950au. Ysgrifennodd hefyd rai o'r rhaglenni cynharaf a oedd yn gwbl greadigol, fel un oedd yn cynhyrchu llythyrau caru yn awtomatig. Roedd yn rhan o grŵp o gyfridiadurwyr hoyw dylanwadol, a dioddefodd chwalfa nerfol yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Caergrawnt, a briodolodd ei chwaer i’w frwydrau i ddod i delerau â’i gyfunrywioldeb.

Edith Windsor
Roedd Edith ‘Edie’ Windsor yn rhaglennydd cyfrifiadurol a pheiriannydd, yn gweithio gyda’r UNIVAC yn Combustion Engineering. Yn ddiweddarach bu’n gweithio yn IBM fel uwch beiriannydd systemau, gan weithio’n bennaf gyda phensaernïaeth systemau a systemau gweithredu. Roedd Windsor a’i wraig Thea Spyer yn weithredwyr LGBT+, a chwaraeodd Windsor ran allweddol wrth ddileu adran 3 o’r Ddeddf Amddiffyn Priodas yn dilyn achos yr Unol Daleithiau v. Windsor yn 2013.

Lynn Conway
Mae Lynn Conway yn wyddonydd cyfrifiadurol a pheiriannydd trydanol, ac mae'n adnabyddus am ei gwaith ar ddylunio sglodion microelectroneg. Ym 1964, cafodd ei recriwtio gan IBM i weithio ar dîm adeiladu uwchgyfrifiadur uwch. Cafodd Conway ei diswyddo gan IBM yn 1968 ar ôl datgelu ei bwriad i fyw fel menyw. Yna dechreuodd Conway fyw gydag enw newydd a hunaniaeth newydd, a chafodd ei gorfodi i ailadeiladu ei gyrfa o'r newydd, gan fynd ymlaen i wneud gwaith pwysig mewn sefydliadau gan gynnwys Xerox PARC a DARPA. Cafodd ei henwi yn un o 21 o Bobl Drawsrywiol a Dylanwadodd ar Ddiwylliant America gan Time Magazine yn 2014.

Jon Hall
Mae Jon “Maddog” Hall yn wyddonydd cyfrifiadurol gyda chefndir mewn Masnach a Pheirianneg. Hall yw Cadeirydd Bwrdd Sefydliad Proffesiynol Linux, sefydliad dielw o werthwyr cyfrifiaduron sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo systemau gweithredu sy'n seiliedig ar Linux, yn ogystal â chyd-sylfaenydd Rhyngrwyd pethau Brasil. Yng Ngwobrau Linux a Ffynhonnell Agored y DU 2006, cafodd Hall ei anrhydeddu â Gwobr Cydnabod Oes am ei wasanaethau i'r gymuned ffynhonnell agored. Yn 2012, daeth Hall allan fel hoyw mewn erthygl a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Linux ar benblwydd Alan Turing.

Audrey Tang
Mae Audrey Tang yn rhaglennydd hunanddysgedig a oedd yn dysgu Perl yn 12 oed. Lansiodd cwmni yn 15 oed, gan ddechrau gweithio yn Silicon Valley erbyn 19 oed. Maent yn frwdfrydig am feddalwedd rhad ac am ddim a gwe agored, ac yn credu gall cymunedau digidol gall a'r byd digidol annog derbyniad. Mae Tang yn actifydd gwleidyddol brwd yn ogystal â Gweinidog Digidol Taiwan - gweinidog anneuaidd cyntaf y byd.

Mary Ann Horton
Cyfrannodd Mary Ann Horton at ddatblygiad Berkeley UNIX, a arweiniodd at dwf y Usenet yn yr 1980au. Mae Horton yn fenyw drawsryweddol sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i dechnoleg ac i hawliau trawsryweddol yn y gweithle. Ym 1997, gofynnodd i’w chyflogwr ar y pryd Lucent Technologies gynnwys yr iaith “hunaniaeth, nodweddion, neu fynegiant rhywedd” yn ei pholisi peidio â gwahaniaethu ar sail Cyfle Cyfartal (EO), a arweiniodd at Lucent fod y cwmni cyntaf yn yr Unol Daleithiau i ychwanegu iaith trawsrywedd-gynhwysol i'w bolisi EO.