Mae ein digwyddiadau WiST wedi'u hanelu at fenywod yn y sector technoleg (neu sydd â diddordeb brwd yn y diwydiant) i ddysgu gan fenywod ysbrydoledig eraill a rhwydweithio â phobl o'r un anian. Mae pob digwyddiad yn hollol rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd Llywodraeth Cymru.
Bydd ein digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal dros Zoom rhwng 11.45am-1pm ar Ddydd Gwener 21ain Ionawr. Bydd y sesiwn amser cinio yn darparu cyfle i glywed gan ein siaradwr, gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych a rhyngweithio gyda phobl debyg mewn amgylchedd anffurfiol.
Sut hoffech chi gael eich gweld gan bobl eraill? Dysgwch sut i adnabod eich cryfderau sy'n eich gosod chi ar wahân i bawb arall a sut i ddatblygu eich rhinweddau. Yn y dosbarth meistr rhad ac am ddim hwn, bydd Dr Jenny Clarke, Cyfarwyddwr Digidol yn Bright Sprout yn eich dysgu sut i deimlo'n fwy hyderus yn eich galluoedd ac i gyfathrebu'r galluoedd hyn â'ch cyfoedion a darpar gyflogwyr.
Mae Jenny wedi arwain timau marchnata ar draws y sectorau addysg uwch, ymgynghori ynni ac elusennau. Mae hi bellach yn Gyfarwyddwr Digidol yn Bright Sprout, lle mae'n cefnogi busnesau bach a chanolig i gyflawni eu potensial i dyfu. Mae Jenny yn darparu hyfforddiant ar bopeth sy'n gysylltiedig â brandio, ond yn enwedig sut i drosoli'ch ased mwyaf pwerus - chi!