Croesawon ni dros 100 o fynychwyr i'n Cynhadledd Addysg 2021, yn gorfforol i Stadiwm Swansea.com, a thrwy ein ffrwd fyw.
Bwriad y digwyddiad oedd dod ag addysgwyr digidol Cymru at ei gilydd i rannu arferion da, rhoi gwybod am y newidiadau yn y cwricwlwm a hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael. Mae'n hanfodol bod athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd yn ymwybodol o'r cymhwyster y maent yn gosod y sylfaen tuag ato, felly roedd pob sgwrs (gan gynnwys Minecraft) yn berthnasol i addysgwyr ysgolion cynradd ac uwchradd.
Clywon ni gan Tom Macildowie o Adobe gyda thrafodaeth am sut y gellir defnyddio'r feddalwedd yn y dosbarth i ddatblygu gemau, gwefannau ac animeiddiadau - rhannau hanfodol o'r cwricwlwm newydd. Yna, bu ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Stewart Powell yn trafod datblygu gemau a sut mae’n addysgu sgiliau unigryw yn perthyn i ddisgyblion, megis creadigrwydd a datrys problemau.
Yn dilyn hynny, eglurodd Sarah Snowdon o Minecraft: Education Edition bwysigrwydd Minecraft mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i ddatblygaeth disgyblion mewn amgylchedd hamddenol. Yna, cynhaliodd ein Swyddog Addysgu Jack weithdy Minecraft i sicrhau bod mynychwyr yn teimlo'n hyderus wrth ddefnyddio Minecraft: Education Edition yn eu haddysgu a chefnogi plant i wneud yr un peth.
Ar ôl y sesiynau, cynhaliodd Adam Speight sesiwn rhwydweithio Technoteach Teachmeet arall ar gyfer athrawon yn y digwyddiad. Rydym yn cynnal y sesiynau hyn yn aml drwy gydol y flwyddyn er mwyn darparu fforwm i addysgwyr digidol y wlad gwrdd â'i gilydd a rhannu syniadau. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol i glywed am ddigwyddiadau'r dyfodol!