Benwythnos diweddaf, archwilion ni ddigwyddiadau arloesol trwy hanes yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe.
Gweithion ni gyda Grace o BBC Bitesize i gynnig sesiynau STEM rhithwir i ddisgyblion ledled Cymru. Aeth cyfranogwyr ar daith trwy'r oesoedd, gan edrych yn ôl dros gyfnodau arloesol ac anhygoel trwy gydol hanes peiriannau gyda chymorth ei beic modur ei hun!
Anfonom ni 2,000 o becynnau adnoddau i ysgolion ledled y wlad a oedd yn cynnwys llu o wahanol weithgareddau i'w gwneud yn ystod y digwyddiad i danio diddordeb disgyblion mewn arloesi a meithrin chwilfrydedd ac ymgysylltu â gwyddoniaeth. Yna cafodd y disgyblion gyfle i sgwrsio am eu canfyddiadau a'u darganfyddiadau gyda Grace yn y gweithdy.
Ar ôl y gweithdai, cynnigon ni nifer gyfyngedig o weithdai personol gyda Thîm Cyflenwi Technocamps i ehangu eu hymgysylltiad a'u diddordeb yn y pwnc.
Meddai Cyfarwyddwr Cynorthwyol Technocamps, Stewart Powell, "Mae gallu dod â 2,000 o ddisgyblion o bob rhan o Gymru ynghyd ar gyfer un gweithdy yn enghraifft berffaith o arloesi anhygoel. Darparodd Grace brofiad gwych ac roedd y disgyblion yn ymgysylltu ac yn gyffrous i ddysgu am y wyddoniaeth a'r dechnoleg y tu ôl i ddyfeisiau hanes. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gynnal hyd yn oed mwy o weithdai fel hyn gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru a bod yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe eto'r flwyddyn nesaf.“