Rydyn ni'n gyffrous i wahodd disgyblion benywaidd ym Mlynyddoedd 8 a 9 i fynychu diwrnod llawn gweithdai yn Academi STEAM newydd sbon Coleg Penybont!
Mae'r digwyddiad corfforol am ddim mewn partneriaeth ag Academi STEAM Coleg Penybont a'r Canolfan Ecsbloetio Digidol Cenedlaethtol. Byddwn yn cyflwyno cyfranogwyr i amrywiaeth o sgiliau Ymchwilio Fforensig gan gynnwys Fforensig Ddigidol, Steganograffeg, Olion Bysedd a mwy. Bydd pob gweithdy yn ymarferol ac yn cael ei gyflwyno gan ddarlithwyr ac arbenigwyr yn eu maes.
Gall y disgyblion a ddewisir i fod yn bresennol fod y rhai y mae angen i'w dyheadau gael eu codi tuag at ddilyn pwnc STEM ar lefel TGAU.
Dyddiad: Dydd Llun 29ain Tachwedd 2021
Lleoliad: Academi STEAM Coleg Penybont, Campws Cyncoed, Cowbridge Rd, Penybont ar Ogwr CF31 3DF
Mae'r gweithdy hwn yn rhan o raglen GiST (Merched mewn Gwyddoniaeth a Technoleg) Technocamps. Gwahoddir mynychwyr hefyd i ddigwyddiadau Technocamps yn y dyfodol. Mae lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Os na all disgyblion fod yn bresennol, llenwch eu lleoedd gyda disgyblion wrth gefn er mwyn osgoi eraill rhag methu â mynychu. Rhaid i ddisgyblion gael eu cofrestru gan athro dosbarth.
Agenda:
9.30am Cofrestru
9.40am Croeso
10-11am Gweithdy 1: NDEC
11-11.15am Egwyl
11.15am-12.15pm Gweithdy 2: Ymchwiliad Trosedd a Fforensig gyda Choleg Penybont
12.15-1pm Cinio
1-2pm Gweithdy 3: Steganography with Technocamps
2pm Sesiwn Llawn
2.30pm Diwedd
Gweithdy 1: NDEC
Mae fforensig ddigidol yn cynnwys llawer o ddatrys posau a datgloi cyfrinachau cudd technoleg! Darganfyddwch sut mae arbenigwyr fforensig digidol yn ymchwilio i leoliad trosedd pan fydd technoleg yn rhan ohono - o sicrhau nad yw tystiolaeth wedi'i halogi a bod cadwyn y ddalfa yn cael ei chofnodi, i edrych trwy eitemau yn y lleoliad am ddata argyhoeddiadol!
Gweithdy 2: Ymchwiliad Trosedd a Fforensig gyda Choleg Penybont
Oes gennyt ti lygad am fanylion? Allet ti dod o hyd i'r cliwiau? Bydd yn ymchwilydd lleoliad trosedd a chasgla'r dystiolaeth i ddatrys y drosedd. Dyma gyfle i gael profiad o'r protocol cywir ar gyfer ymchwilio i leoliad trosedd, gan gynnwys: ffotograffiaeth lleoliad trosedd, swabio tystiolaeth a llwch ar gyfer olion bysedd. Gorffenna'r profiad gyda dosbarth meistr olion bysedd.
Gweithdy 3: Steganograffeg gyda Technocamps
Gallwch chi ddod o hyd i ddata sydd wedi'i guddio mewn data? Geiriau wedi'u cuddio mewn lluniau? Cyfrineiriau wedi'u cuddio mewn taenlen? Rhowch eich sgiliau Steganograffeg i waith a chwiliwch am gliwiau i ddatrys trosedd! Yn y gweithdy hwn byddwch chi mewn ymchwiliad lleoliad trosedd digidol, ar ôl derbyn gwybodaeth gan y Ditectif Smith, chi fydd y rhai sydd â’r dasg o ddatgelu cynllun y troseddwyr…