Fel rhan o Academi STEM Technocampsyr haf hwn, cynhalion ni lwyth o weithgareddau hwylus ledled Cymru i ysgogi, ysbrydoli ac ymgysylltu pobl ifanc â phynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.
Croesawon ni gannoedd o blant ledled y wlad i'n canolfannau! Gan ddefnyddio eitemau bob dydd, fel powdr golchi, poteli diodydd a jygiau, gwnaethon nhw lysnafedd, saethon nhw rocedi, arbedon nhw farchogion, llywion nhw helfeydd trysor, codion nhw gliwiau cryptig wrth ddysgu am y wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg y tu ôl i'r gweithgareddau.
Gyda chyfyngiadau ysgolion dros y 18 mis diwethaf, mae posibilrwydd bod plant, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig, ar ei hôl hi gyda'u gwaith ysgol. Nod ein hacademi ryngweithiol oedd mynd i'r afael â'r mater hwn ar ôl llwyddiant ein Haf o STEM llynedd..
Adborth gan ddisgbylion:
"Diwrnod gorau erioed!"
“Rwy’n hoffi bod y gwaith yn hwyl, ac roedd y swyddogion addysgu mor braf, roedd y diwrnod cyfan yn gyffrous ac yn ddiddorol. Ac roedd yr holl arbrofion mor hwyl.”
"Roedd pob gweithgarredd yn hwylus oherwydd dysgais rywbeth newydd."
"Roedd heddiw y diwrnod gorau mewn amser HIR!"
Adborth gan rieni:
“Wnaeth fy meibion fwynhau yn fawr. Rydw i mor ddiolchgar am unrhyw beth sy'n cael ei gynnal ar eu cyfer ar ôl popeth maen nhw wedi'i golli yn ystod y 18 mis diwethaf."
“Roeddwn i eisiau dweud diolch enfawr, roedd fy nau fab wedi mwynhau yn fawr ac yn frwdfrydig ac yn gyffrous am y gweithgareddau. Digwyddiad hynod ddifyr a difyr dros ben!”
"Roedd fy mhlentyn wedi ei fwynhau’n aruthrol ac byddai hi wrth ei bodd yn gwneud mwy yn y dyfodol.”
“Diolch yn FAWR! Cafodd ein merch ddiwrnod gwych gyda chi . Rwy'n gwybod yn yr hinsawdd Covid cyfredol ei bod yn heriol iawn cynnal rhaglenni fel hyn felly diolch am wneud hyn!”
Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau Technocamps, Luke Clement, “Ar ôl 18 mis hir o gyflawni ein gweithgareddau yn rhithwir, roedd yn wych cael staff a disgyblion yn ôl ar y safle yn mwynhau cymryd rhan yn yr holl weithdai. Nawr rydyn ni'n edrych ymlaen at ddysgu eto mewn ysgolion yn y tymor newydd yn fwy nag erioed!”
Cafodd bob gweithgaredd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.