Yn y blog hwn, mae Swyddog Addysgu Arunima o'n canolfan yng Nghaerdydd yn trafod ein prosiect cyfnewid diweddar Un Byd, Un Dechnoleg gydag ysgolion yn India.
Mae'r mis diwethaf wedi bod llawn gyflawniadau, profiadau newydd ac ymwybyddiaeth ar gyfer ein canolfan yng Nghaerdydd, wrth iddyn ni gwblhau ein prosiect cyfnewid diwylliannol rhyngwladol 5-wythnos, ‘Un Byd, Un Dechnoleg’. Nod y prosiect oedd gweithio gydag ysgolion yng Nghymru ac India, gan ddefnyddio'r sgiliau newydd rydyn ni wedi'u hennill i weithio o bell ac yn gydweithredol. Roddwn ni'n gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc yn y ddwy wlad i greu technoleg a fydd yn mynd i’r afael â phroblem yn eu hardal sy’n ganlyniad i Newid Hinsawdd.
Roedd tair ysgol yn cymryd rhan o Gymru - Ysgol Emmanuel, Craig-Yr-Hesg, Ysgol Gynradd Cefn – yn ogystal â blynyddoedd 6, 7 ac 8 o Ysgol City Montessori Gomti Nagar yn India.
Roedd cyfanswm o 74 o ddisgyblion o India a 120 o ddisgyblion o Gymru yn rhan o’r prosiect hwn, a roddodd gyfle i ni fod yn fwy cynhwysol, creu syniadau mwy arloesol a chael mewnwelediadau gwell i faterion amgylcheddol heddiw. Roeddem yn cynnal dwy sesiwn yr wythnos; sesiwn 90-munud gyda'r ysgolion yn unigol, a sesiwn 30-munud rhyngweithiol gyda'r holl ddisgyblion gyda'i gilydd. Roedd hyn er mwyn sicrhau llai o amser sgrin i'r disgyblion, ond roedd digon o amser iddynt weithio ar eu prosiectau rhwng y sesiynau.
Dechreuodd y prosiect gyda’r disgyblion yn dewis pwnc o restr o argyfyngau amgylcheddol a meddwl am syniadau ar sut y gallant frwydro, codi ymwybyddiaeth o neu ddatrys y mater a ddewiswyd trwy greu technoleg. Gallai'r datrysiad technegol hwn fod yn gwbl ddychmygus a chreadigol. Pan ddechreuon ni'r trafodaethau, nid oeddem ni'n ystyried y byddai'r disgyblion yn mynd i'r afael â datrysiadau a oedd yn rhyfeddol ond yn rhywbeth y gallem ei ddatblygu yn go iawn y blynyddoedd i ddod. Er mwyn cefnogi'r cyfranogwyr, cyflwynon ni'r sesiynau ar offer fel Datblygu'r We (HTML a CSS), Twine a Thunkable. Dysgodd pawb y sgiliau yn drylwyr yn y sesiynau 90-munud ac nid oeddent yn amwys i roi cynnig ar bethau a dechrau adeiladu. Dewisodd y disgyblion un teclyn yr un a'i ddefnyddio i ddangos eu datrysiadau technegol. Yna cafodd y prosiectau terfynol eu harddangos i bawb.
Roedd y prosiect hwn yn brofiad dysgu i'r disgyblion, ac hefyd i ni fel cymedrolwyr. Sylweddolon ni bod y bwlch cenhedlaeth rhyngom yn gyfle i rannu syniadau ar faterion heddiw o safbwynt meddylfryd ifanc. Aeth y disgyblion i'r afael â phroblemau go iawn, gan ganolbwyntio ar dechnoleg fodern ac awgrymu atebion ar gyfer y dyfodol. Cawsom nifer o syniadau, fel robot a fyddai’n mynd o amgylch caeau yn taenu hadau fel y gallwn dyfu mwy o goed yn effeithlon; drôn a allai hedfan dros dân coedwig a gollwng dŵr i'w ddiffodd; robotiaid sy'n codi sbwriel ac yn ei ailgylchu ynddo'i hunain. Roedd y syniadau hyn yn greadigol, yn arloesol ac yn ymarferol.
Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys cyfnewidiad diwylliannol, lle roedd disgyblion yn dysgu am ffyrdd o fyw a chyfathrebu ei gilydd trwy rannu gwaith, ffotograffau a syniadau. Bob wythnos, roeddem yn edrych ar luniau o ystafelloedd dosbarth, anifeiliaid anwes, byrddau meddal, ac ati o'r ddwy wlad ac roedd yn gyffrous gweld pa mor debyg ond gwahanol y gall dau ddiwylliant fod. Erbyn diwedd y prosiect, roedd y disgyblion wedi dod yn ffrindiau a oedd yn rhannu llawer yn gyffredin.
Rhannodd y disgyblion eu bod nhw wedi sylweddoli nad oes unrhyw gyfraniad yn rhy fach a bod pob newid mawr yn dechrau gyda cham bach. Hwn oedd y tro cyntaf i ni gymryd y cam i weithio'n rhyngwladol, ac rydym wedi bod yn hynod lwcus gyda'r ysgolion a ymunodd â'r prosiect a'r amser a roddodd yr athrawon i wneud i'r prosiect hwn weithio. Disgwylir i hwn fod yn brosiect parhaus sy'n caniatáu i genhedloedd dan sylw greu atebion technegol ar gyfer argyfwng byd-eang parhaus, gyda phwnc gwahanol bob blwyddyn.
Eleni, dysgom ni y gallai pethau fel diwylliant, technoleg a thrafodaethau cyffredin ein helpu i ddod at ein gilydd ac ymladd yr argyfwng amgylcheddol fel un, ni waeth y pellter rhyngom - yn yr un ffordd rydym wedi bod yn brwydro yn erbyn y pandemig byd-eang hwn fel tîm! Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a oedd yn rhan o'r prosiect ac a gyfrannodd at gwblhau'r prosiect.