Mae ein partner, Theatr na nÓg, yn cyflwyno'i gynhyrchiad The Arandora Star - sy'n adrodd hanes y cymunedau Eidalaidd a oedd yn byw yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd - fel cynhyrchiad theatr byw yn Theatr Dylan Thomas yn Abertawe yng Ngwanwyn 2022.
Pan aeth yr Eidal i'r rhyfel yn ystod haf 1940, cafodd Eidalwyr a oedd yn byw yng Nghymru a gweddill y DU eu brandio fel y gelyn. Ar y 1af o Orffennaf 1940, cafodd yr Arandora Star ei gamgymryd am long filwrol a'i dorpido gan 'Uboat' o’r Almaen oddi ar arfordir Iwerddon, a’i suddo gyda 446 o fywydau dynion o’r Eidal wedi eu colli.
Mae drama Theatr na nÓg, The Arandora Star, yn adrodd stori emosiynol Lina wrth iddi frwydro i ymdopi â cholli ei thad, Guido, a sut mae hi a’i mam, Carmella yn goroesi mewn cyfnod o ryfel a rhagfarn. Mae'r Arandora Star yn stori wir a bydd yn archwilio bywyd mewnfudwyr sy'n byw ac yn gweithio yn y DU yn ystod cyfnod o ryfel ac yn dilyn cwest Lina am ei thad a'r gwir. Mae’r ddrama hon yn amlygu materion mewnfudo ac integreiddio ac yn ddelfrydol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 ac yn uwch.
Mae'r ddrama, gweithdai ac adnoddau'n cefnogi holl Feysydd Dysgu a Phrofiad Llywodraeth Cymru mewn ffordd greadigol. Byddwn yn parhau â'n cydweithrediad â Theatr na nÓg ac rydym yn edrych ymlaen at ddiwrnod y gweithgareddau.
Unwaith i chi archebu, bydd gennych chi fynediad at lwyth o gynlluniau gwersi ac adnoddau addysgiadol i'ch helpu i gynllunio'ch prosiect a'r cyfle i fwcio gweithdy Technocamps rhad ac am ddim i ddilyn y sioe.