Mae disgyblion o Aberdaugleddau wedi ail-ddylunio’r orsaf reilffordd newydd mewn byd Minecraft, yn y gobeithion o ysbrydoli dyluniad bywyd go iawn newydd y cyngor.
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau a Chyngor Sir Benfro i herio disgyblion i ddylunio ac adeiladu gorsaf reilffordd newydd y dref ym Minecraft. Gofynnwyd i'r disgyblion feddwl am ddyfodol eu hardal leol, gan ystyried cynaliadwyedd, hygyrchedd a defnyddioldeb yr orsaf. Defnyddir y dyluniadau buddugol i lywio cynigion ar gyfer yr orsaf sy'n cael eu datblygu gan Gyngor Sir Benfro ac Atkins.
Dim ond lloches fach yw'r orsaf reilffordd bywyd go iawn ar hyn o bryd, ond mae'r cyngor lleol ar fin dechrau adeiladu gorsaf newydd yn ddiweddarach eleni.
Dyma rai enghreifftiau o fodelau'r disgyblion:
Mae hwn yn dilyn llwyddiant ein cystadleuaeth Craft My City diweddar mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd, lle gofynnwyd i ddisgyblion rannu eu syniadau ar gyfer yr ardal tu allan i Amgueddfa Caerdydd gan ddefnyddio Minecraft.