Bydd Eisteddfod yr Urdd eleni yn cael ei chynnal rhwng 31 Mai a 4 Mehefin 2021 gyda chyfres o gystadlaethau, gweithgareddau a digwyddiadau ar gyfer plant o bob oedran.
Ar Ddydd Mawrth 1 a Dydd Gwener 4 Mehefin, byddwn ni'n cynnal ein gweithdai Achub y Gofodwr poblogaidd fel rhan o gyfres Gwyddonle Prifysgol Abertawe. Bydd y digwyddiadau rhithwir hyn rhad ac am ddim ac yn cael eu hanelu at blant 9-13 oed.
Rydyn ni wedi llwyddo i drefnu cyfweliad â gofodwr - yn fyw o ddyfnderoedd y gofod! Hynny yw, ar yr amod nad oes unrhyw beth yn mynd o'i le. Paratowch i gracio codau a rhaglennu wrth i ni helpu i arbed ein gofodwr yn erbyn y cloc.