Rydyn ni wedi creu 4,000 o weithlyfrau ac adnoddau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg corfforol i gefnogi addysg gartref heb yr angen am fynediad i'r rhyngrwyd.
Rydym wedi bod yn gweithio ar draws ein hybiau ym mhrifysgolion Cymru i ddarparu adnoddau digidol, gweithgareddau a gweithdai i blant ysgol yng Nghymru ers dechrau'r pandemig. Yn dilyn adborth nad oes gan bob plentyn fynediad hawdd at yr adnoddau hyn, postion ni 4,000 o becynnau gweithgaredd dwyieithog i blant ysgol uwchradd ledled Cymru i weithio arnynt yn eu hamser eu hunain, gan ofyn am ychydig neu ddim cefnogaeth gan rieni neu athrawon.
Gydag ysgolion yn cau, mae yna bosibilrwydd y gall plant, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig, syrthio ar ei hôl hi gyda'u gwaith ysgol. Felly, fe wnaethon ni greu adnoddau corfforol i helpu disgyblion i ddal ati i ddysgu.
Mae'r pecynnau'n cynnwys tri gweithlyfr gyda'r themâu Cryptograffeg, Meddwl Cyfrifiadol, a Geometreg gyda Phapur. Gellir gwneud yr holl weithgareddau gartref gyda dim ond adnoddau sylfaenol fel papur a beiros, ac nid oes angen mynediad i'r rhyngrwyd. Mae'r gweithgareddau wedi'u hanelu at bob gallu ac mae'r pecyn yn cynnwys hyd at bedair awr o waith.
Yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps:“Rydyn ni wastad wedi bod yn awyddus i gyrraedd plant difreintiedig a sicrhau Cymru tecach. Mae'r gweithlyfrau wedi bod yn fenter wych i gynnwys pob disgybl ac i lenwi'r bylchau yn y ddarpariaeth oherwydd diffyg adnoddau. "
Victoria Price, athro yn Ysgol Greenhill: “Mae hwn yn adnodd gwych i’n disgyblion Cyfnod Allweddol 3 nad ydyn nhw o reidrwydd â mynediad hawdd at y rhyngrwyd. Ar adeg pan rydyn ni fel athrawon mor brysur yn cynllunio ac yn addasu, mae cefnogaeth ychwanegol gyda'n gwersi wedi bod yn amhrisiadwy.”
Fel arfer, gall cyfranogwyr naill ai gymryd rhan yn yr ysgol neu gyda chlwb cymunedol, neu ymweld â'n hystafell allgymorth bwrpasol ar gampws Prifysgol Abertawe. Nod y gweithdai ymarferol hyn yw dod â STEM yn fyw, gan roi cyfle i ddisgyblion gwrdd â thîm Technocamps a chael blas ar fywyd yn y Brifysgol.
Roeddem yn gallu cynhyrchu’r pecynnau hyn diolch i gefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd Llywodraeth Cymru a HEFCW.