Mae ein hymrwymiad i ddarparu'r sgiliau y mae eu hangen ar blant i ddatblygu a thyfu yn parhau, ac rydym bellach yn cynnig clybiau codio ar ôl ysgol i blant 9-16 oed. Mae Technoclub yn gyfle i bobl ifanc ennill profiad cyfrifiadurol yn ystod sesiynau rhyngweithiol byw y tu allan i'r ysgol.
Mae'r clwb yn darparu sesiwn wythnosol am ddim weekly session where pupils will learn new Computer Science skills whilst working towards an end project goal. It’s aimed at all abilities and only requires internet access. Participants do not need any prior knowledge or experience in coding or programming to join the club.
Mae'r clwb yn wych ar gyfer y rheiny sydd wedi mynychu ein gweithdai mewn ysgolion, gan eu galluogi i feithrin eu sgiliau yn hawdd wrth eu pwysau ac mewn amgylchedd dysgu llai ffurfiol. Mae hefyd yn addas ar gyfer dechreuwyr llwyr gan fod y sesiynau wedi'u cynllunio'n fwriadol i ddarparu ar gyfer dysgwyr o bob lefel.
Mae Technoclub yn cael ei gynnal gan ein Swyddogion Darparu profiadol ac ymroddedig, sy'n cylchdroi eu haddysgu fel bod pob sesiwn yn newydd ac yn ffres. Ymdrinnir ag ystod eang o bynciau cyfrifiadurol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ieithoedd rhaglennu, er enghraifft Greenfoot, Logo, Python, micro:bit y BBC, Scratch, Lego Mindstorm a rhai sesiynau Meddwl Cyfrifiadurol hwyliog (ac ymarferol) yn seiliedig ar ddamcaniaethau.
Mae Technoclub yn rhedeg trwy gydol y tymor ysgol, a hynny rhwng 4.30pm-6.30pm ar ddydd Llun a dydd Mercher, a rhwng 4-6pm ar ddydd Gwener.
Thema'r sesiynau ar Dydd Llun yw Chip Music. Byddwn yn mynd ar daith gerddoriaeth o'r 1950au hyd ar yr 1990au wrth i ni edrych ar yr electroneg a rhaglennu tu ôl i'r caneuon mwyaf boblogaidd! Bydd y sesiynau'n cynnwys:
- Cofrestru a Chyflwyniad
- Electroneg Sain
- Tonnau Sgwar
- Dilyniannwr
- Tonnai Sin
- Hidlau ac Effeithiau
- Tracwyr Mod
Gyda'r sesiynau ar Dydd Mercher , byddwn yn mynd â'n sgiliau codio i'r lefel nesaf trwy wneud gêm antur yn seiliedig ar destun yn Python!
Dydd Gweneryn edrych ar ddysgu a chwarae gyda thechnoleg mewn amgylchedd hwyliog. O ddechreuwyr i ddysgu peiriant uwch yn Python. Mae enghreifftiau o bynciau a drafodwyd yn sesiynau'r gorffennol yn cynnwys: Seiberddiogelwch, datblygu gemau, animeiddio, modelu 3D, datblygu gwefan a llawer mwy.