Rydym yn cynnal cyfres o sesiynau DPP ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd sy'n canolbwyntio ar gysyniadau allweddol Datblygu Gemau. Mae'r sesiynau'n cael eu hwyluso gan Goleg Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe a Technocamps ac maent yn rhad ac am ddim i gyfranogwyr diolch i gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Rolau yn y Diwydiant Gemau
Dydd Mercher 21ain Ebrill 2021
Bydd y sesiwn hon yn gyflwyniad i'r diwydiant gemau modern, o stiwdios annibynnol i gyhoeddwyr AAA mawr. Ar ddiwedd y sesiwn, bydd gennych syniad o'r ystod eang o rolau yn y diwydiant gemau a'r sgiliau sydd eu hangen i lenwi'r rolau hynny.
Addysgu Dylunio Gemau
Ddydd Mercher 5ed Mai 2021
Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i'r maes o ddylunio gemau ac yn rhoi'r offer sydd eu hangen arnoch i'w ddysgu. Gan ddechrau trwy ddewis beth yn union yw gêm, byddwn yn edrych ar sut y gallwn wahanu gwahanol agweddau ar gêm ac adeiladu cyfres o weithdai o amgylch yr agweddau hyn. Erbyn diwedd y sesiwn, bydd gennych werthfawrogiad o beth yw dylunio gemau a pham ei fod yn rhan hanfodol o ddatblygiad gêm.
Cyflwyniad i Raglennu gan ddefnyddio Scratch
Ddydd Mercher 19eg Mai 2021
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar y cysyniadau rhaglennu sylfaenol gan ddefnyddio'r amgylchedd rhaglennu llusgo a gollwng cyfeillgar Scratch. Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch wedi gweld sut i weithredu algorithmau o fewn Scratch i adeiladu gêm, a byddwch yn derbyn dolenni i adnoddau ychwanegol i ddatblygu ar y rhain ymhellach.