Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu Menywod mewn STEM a'n partneriaethau dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae dathliad blynyddol Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ITWales a Technocamps yn rhoi cipolwg o'r amrediad amrywiol o gyfleoedd sydd ar gael o ran busnes a gyrfaoedd i fenywod yn yr 21ain Ganrif. Mae’n cynnig platfform i fenywod ar gyfer rhannu profiadau, gwybodaeth ac arfer gorau, yn arbennig y rhai hynny sy'n gweithio ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg.
Thema eleni yw "Dewis i Herio: Cydraddoldeb Rhyw mewn STEM". Bydd y digwyddiad yn dangos beth yw'r heriau o ran addysg a busnes, a hynny'n rhanbarthol ac yn genedlaethol; bydd yn canolbwyntio ar gyflawniadau ledled Cymru, a bydd grŵp amrywiol o siaradwyr allweddol yn annerch.
Rhaglen:
6.00pm: Cyrraedd
6.05pm: Julie Walters, Uwch Reolwr Prosiect Technocamps
6.10pm: Swyddogion Addysgu Technocamps
6.20pm: Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru
6.30pm: Jacqueline de Rojas CBE, Cadeirydd y Sefydliad Codio
6.40pm: Gwen Parry-Jones OBE, Prif Swyddog Gweithredol Magnox
7.00pm: Nia M Davies, BBC Cymru
7.20pm: Sesiwn Holi ac Ateb
7.30pm: Cau
Cod gwisg: Ffurfiol (sliperi'n opsiynol!)
Bydd dolen Zoom yn cael ei hanfon atoch chi cyn y digwyddiad.
Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy'n dathlu cyflawniadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol menywod yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Bob blwyddyn, mae miloedd o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y byd, i ysbrydoli a dathlu cyflawniadau. Mae gwe fyd-eang o weithgarwch cyfoethog ac amrywiol yn cysylltu menywod o bedwar ban y byd, yn cynnwys ralïau gwleidyddol, cynadleddau busnes, gweithgareddau llywodraethau, a digwyddiadau rhwydweithio.
Gobeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni am noson i'ch diddanu, eich cymell a'ch ysbrydoli.
Siaradwyr y Digwyddiad:
Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru
Mae Kirsty Williams wedi bod yn Weinidog Addysg Cymru ers mis Mai 2016.
Hi sy’n arwain Rhaglen Addysg y Llywodraeth, sy’n cynnwys lleihau maint dosbarthiadau babanod, cyflwyno’r system cymorth myfyrwyr fwyaf teg a blaengar yn Ewrop, a thrawsnewid agenda addysg Cymru gyda’r Cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru.
Mae hi wedi bod yn Aelod Cynulliad dros Aberhonddu a Sir Faesyfed er 1999, ac yn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 2008 - 2016; arweinydd benywaidd cyntaf plaid wleidyddol Gymreig.
Jacqueline de Rojas CBE, Chair, Institute of Coding | President, techUK | President, Digital Leaders
Mae Jacqueline yn un o'r ffigurau amlycaf yn y Diwydiant TG yn y DU. Hi yw Llywydd techUK a'i nod yw cynrychioli'r cwmnïau a'r technolegau sy'n diffinio'r byd y byddwn ni'n byw ynddo yfory heddiw.
Hi yw Llywydd Digital Leaders, sy'n rhannu ac yn ysbrydoli'r gorau o drawsnewid digidol yn y DU ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a dielw.
Mae hi hefyd yn Gadeirydd y Sefydliad Codio sydd â chenhadaeth i chwalu'r rhwystrau i ddysgu digidol a chyflogaeth, gyda'r gred y dylai dysgu fod yn broses gydol oes a bod gan bawb hawl i wella eu sgiliau.
Dyfarnwyd CBE i Jacqueline yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines 2018 am wasanaethau i Fasnach Ryngwladol mewn Technoleg. Efallai i chi hefyd ei chlywed yn siarad am ei thaith ar Desert Island Discs ar Radio 4 ym mis Mawrth 2019.
Mae Jacqueline yn hapus gyda’i gwr, ei thri o blant ac ŵyr bach. Mae hi'n dod o hyd i gydbwysedd yn ei bywyd gyda myfyrdod ac ioga.
Gwen Parry-Jones OBE, Prif Swyddog Gweithredol Magnox Ltd
Dechreuodd Gwen Parry-Jones OBE ei gyrfa ym 1989 fel ffisegydd adweithyddion yng ngorsaf bŵer Magnox Wylfa Newydd, cyn ymgymryd â sawl swydd reoli yn British Energy ac yna EDF Energy, yn y DU a Chanada.
Yn 2008 daeth hi’n Gyfarwyddwr gorsaf bŵer Heysham 1 a hi oedd y fenyw gyntaf yn y DU i redeg gorsaf ynni niwclear. Yn ystod ei hamser yn EDF Energy, dyfarnwyd Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) i Gwen am ei gwasanaethau i wyddoniaeth a thechnoleg.
Cyn ymuno â Magnox Ltd, roedd Gwen yn Gyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Gweithrediadau yn Horizon Nuclear Power.
Gwen yw Llywydd presennol y Sefydliad Niwclear ac mae hi hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg.
Nia M Davies, Pennaeth Addysg BBC Cymru
Nia yw Pennaeth Addysg BBC Cymru ac mae'n gyfrifol am gomisiynu cynnwys addysgol ac arwain ar gynyrchiadau addysgol i Gymru. Mae Addysg BBC yn cynhyrchu BBC Bitesize, BBC Teach ac ymgyrchoedd addysgol a'u nod yw trawsnewid bywydau trwy addysg. Yn ystod 2020 ac i mewn i 2021, mae'r gwasanaethau wedi gweld ymchwydd enfawr yn y defnydd tra bod ysgolion ar gau .
Mae gan Nia ddealltwriaeth ddofn o anghenion cwricwlaidd myfyrwyr yng Nghymru ac mae wedi bod yn ymwneud â datblygu a diwygio'r cwricwlwm yn ystod y blynyddoedd diwethaf ochr yn ochr â phartneriaid ac addysgwyr allanol. Ei harbenigedd yw trawsnewid yr anghenion hyn yn brofiadau cynnwys atyniadol i gefnogi myfyrwyr ac athrawon.
Mae hi wedi gweithio fel Cynhyrchydd Gweithredol arobryn ar nifer o deitlau ac ar lawer o frandiau'r BBC fel Eastenders, Crimewatch a chynnwys BBC Three. Cyn hynny roedd hi'n olygydd cynnwys ac yn Uwch Gynhyrchydd yn S4C.