Mae Hwb wedi creu cwrs newydd i helpu addysgwyr i lansio Minecraft, hyd yn oed os yw am y tro cyntaf, a symud ymlaen i ddatblygu eu gwersi eu hunain a fydd yn cyfoethogi’r meysydd dysgu a phrofiad amrywiol.
Pam ddylwn i gymryd rhan mewn hyfforddiant Minecraft: Education Edition?
Mae’r cwrs hyfforddiant Minecraft: Education Edition wedi’i seilio ar gynllun ymchwil weithredu, gan ymgorffori proses fyfyrio fel rhan o ’gymuned ymarfer’.
Bydd y cwrs yn tywys addysgwyr o lansio Minecraft, hyd yn oed os yw hynny am y tro cyntaf, i ddatblygu eu gwersi eu hunain a fydd yn cyfoethogi meysydd amrywiol o ddysgu a phrofiad.
Wrth wraidd y Cwricwlwm i Gymru, mae codi uchelgeisiau myfyrwyr i fod yn ddysgwyr llwyddiannus, sy’n chwarae rhan weithredol yn eu cymuned a’r gymdeithas ehangach, ac sy’n barod i ffynnu mewn byd cynyddol gymhleth. Mae Minecraft: Education Edition yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer gweithlu’r dyfodol, gan ddatblygu sgiliau cydweithio, cyfathrebu, meddwl yn feirniadol a meddwl trwy systemau. Mae’r amgylchedd dysgu agored yn rhoi rhyddid i fyfyrwyr arbrofi, gan annog hunanfynegiant creadigol a datrys problemau.
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Mae’r cwrs wedi’i rannu’n dair adran o bynciau ar gyfer dechreuwyr, defnyddwyr canolradd a defnyddwyr uwch. Byddwch yn:
- Dysgu i Chwarae – o leoli eich blociau cyntaf i heriau adeiladu yn yr ystafell ddosbarth
- Cymhwyso yn yr Ystafell Ddosbarth – datblygu eich defnydd yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru
- Cymhwyso a Chyfoethogi – cyfoethogi’r cwricwlwm gyda nodweddion uwch fel: cyfrifiadureg a chodio, cemeg a chysylltu ag arferion peirianneg
Sut fydd y cwrs yn cael ei gyflwyno?
Bydd y cwrs Minecraft: Education Edition yn cael ei gyflawni dros 6 6 wythnos, ac yn cynnwys:
- Sesiynau Dysgu Byw 1 awr yr wythnos drwy Teams (sesiwn min nos gydamserol)
- Dysgu ar eich cyflymder eich hun drwy:
- fideos (anghydamserol)
- darllen
- rhoi pethau ar waith yn y dosbarth
- Cymorth Mentor ar-lein (yn ôl yr angen)
Byddwch yn derbyn tystysgrif ar bob lefel ac yna tystysgrif drosfwaol (Athro Ardystiedig Minecraft Hwb) ar ddiwedd y cwrs.
Gofynion Hyfforddiant Minecraft: Education Edition:
Bydd angen i addysgwyr sicrhau eu bod yn gallu bodloni’r gofynion canlynol i gwblhau’r cwrs:
- Mae’n rhaid i addysgwyr all gymryd rhan ym mhob un o’r 6 gweithdy Dysgu Byw un awr wythnosol
- Ymgymryd â’r dysgu ar eich cyflymder eich hun a’r rhoi ar waith yn yr ystafell ddosbarth
Bodloni’r gofynion technegol canlynol:
- Bydd angen eich dyfais eich hun [Windows 10 neu macOS] lle mae angen caniatâd gweinyddwr/ y gallu i osod rhaglenni
- Mae angen lawrlwytho a gosod fersiwn diweddaraf Minecraft: Education Edition a sicrhau ei fod yn gweithio ar eich dyfais (dyfeisiau) cyn dechrau’r cwrs. (gellir ei lawrlwytho o education.minecraft.net/download)
- An allocated Microsoft 365 Licence from your school Digital Champion
- Trwydded Microsoft 365 wedi’i dyrannu gan Hyrwyddwr Digidol eich ysgol education.minecraft.net/download
- Mae angen gosod Classroom Mode. (gellir ei lawrlwytho o education.minecraft.net/download)
- Fe’ch cynghorir i ddefnyddio llygoden allanol.
Pryd mae'r sesiynau?
Mae'r sesiynau'n cychwyn yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 01 Chwefror 2021.
Gallwch ddewis mynychu sesiynau sesiwn ar un o'r diwrnodau canlynol:
Dydd Llun 16:15-17:15
Tuesday 16:15-17:15
Wednesday 16:15-17:15
Dydd Iau 16:15-17:15
Bydd eich sesiwn ar yr un diwrnod o'r wythnos bob wythnos, am 6 wythnos.
Llenwch y ffurflen gofrestru i gadw'ch lle. Ni ellir cofrestru ar ôl dydd Gwener 22 Ionawr 2021.