Rydyn ni'n falch i gyhoeddi ein bod ni'n cynnig sesiynau cymorth ar gyfer myfyrwyr TGAU a Lefel A!
Yn ystod hanner-tymor, mae Hwb Caerdydd yn cynnig y sesiynau rhithwir canlynol:
1. Sesiwn adolygu TGAU 2-ddiwrnod a fydd yn cynnwys Amcan Asesu Un manyleb TGAU Cyfrifiadureg CBAC: “Dangoswch wybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau ac egwyddorion allweddol Cyfrifiadureg".
2. Bydd y sesiwn Lefel A/AS yn cynnwys agweddau o fanyleb Uned 1 AS Cyfrifiadureg CBAC:
- Caledwedd a chyfathrebu
- Gweithrediadau rhesymegol
- Cynrychiolaeth data a mathau o ddata
- Y system weithredu
- Algorithmau a rhaglenni
- Egwyddorion rhaglennu
- Peirianneg meddalwedd
- Adeiladu rhaglenni
- Diogelwch data
- Materion moesegol a chyfreithiol
Yn ystod yr wythnos dangosydd sbarduno cyfyngiadau, rydyn ni'n cynnig sesiynau Atgyfnerthu Pwnc Uned 2:
10.30am-12.30pm | Dydd Mawrth 3ydd Tachwedd | Greenfoot |
2pm-4pm | Dydd Mawrth 3ydd Tachwedd | LMC |
10.30am-12.30pm | Dydd Mercher 4ydd Tachwedd | Algorithmau |
2pm-4pm | Dydd Mercher 4ydd Tachwedd | Greenfoot |
10.30am-12.30pm | Dydd Iau 5ed Tachwedd | LMC |
2pm-4pm | Dydd Iau 5ed Tachwedd | Algorithmau |
Bydd pob sesiwn yn cael ei ail-adrodd i ddarparu ar gyfer y rhai sy'n codi'n gynnar a'r rhai sy'n codi'n hwyr!