Roedd llwybr Casey i Gyfrifiadureg yn un anghyffredin. Roedd wedi penderfynu bod yn athrawes Ffrangeg hyd nes i'r cwrs Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe gael ei ddiddymu o ganlyniad i ddiffyg diddordeb. Felly penderfynodd Casey astudio Cyfrifiadureg (gan dybio mai cwrs graffeg ydoedd!).
Ar ôl darganfod nad graffeg oedd Cyfrifiadureg, clywodd Casey am Technocamps. Penderfynodd fod hon yn rhaglen wych i fod yn rhan ohoni, a dewisodd fodiwl addysgu a oedd yn cael ei redeg gan yr Athro Faron Moller (Cyfarwyddwr Technocamps). Roedd hyn yn caniatáu iddi weld cyfrifiadureg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion ac i fynd ati i addysgu'r pwnc ei hun. Roedd yn mwynhau gweld myfyrwyr yn cael eu hysbrydoli gan faes nad oeddent, efallai, fel hithau, wedi'i ystyried o'r blaen.
Cafodd ei hysbrydoli hefyd gan anogaeth Technocamps i fenywod fentro i'r maes gan fod dynion yn tra-arglwyddiaethu ynddo. Ar ôl graddio a gweithio mewn diwydiant am flwyddyn, cyflwynodd Casey gais i fod yn Gymrawd Addysgu yn Technocamps. Roedd hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o elfennau, o addysgu plant 7 oed sut i wneud robotiaid, i addysgu pobl ifanc 16 oed sut i ysgrifennu rhaglenni ar gyfer eu gwaith TGAU ac addysgu modiwlau gradd i oedolion.
Ei hoff rannau o'r rôl oedd creu gweithdai, dod o hyd i ffyrdd newydd o addysgu, ac ennyn brwdfrydedd mewn myfyrwyr i astudio cyfrifiadureg!
“Mae fy swydd newydd o fod yn Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg yn un na fyddwn erioed wedi meddwl y byddwn yn ei chael. Mae fy nghyfnod yn Technocamps ac yn addysgu ar y Radd-brentisiaeth wedi bod yn anhygoel. Rwyf wedi gwella fy sgiliau addysgu yn aruthrol, ac rwyf hefyd bron â gorffen Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch, y cefais fy annog i fynd amdani pan gyflwynais gais ar gyfer y swydd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth na fyddwn yn y fan yr wyf ynddi 'nawr pe na bawn wedi gwneud cais i fod yn Gymrawd Addysgu yn Technocamps."