Graddiodd Robert o Brifysgol Caerdydd, ac ysbrydolwyd ei yrfa mewn cyfrifiadureg gan weithdy Technocamps wythnos o hyd yr oedd wedi mynd iddo tra roedd yn yr ysgol. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio fel Ymgynghorydd Cyswllt i’r cwmni meddalwedd byd-eang Red Hat, ar ôl cwblhau rhaglen i raddedigion y cwmni.
Mae ei waith yn ei arwain i bedwar ban byd, ac mae wedi teithio i leoedd megis Prag a München i gwblhau elfennau penodol o’i swydd.
Dywed Robert wrthym ei fod yn ystyried ei swydd yn werth chweil ond yn hynod heriol. Gall fod yn arbennig o rwystredig pan fydd rhywbeth newydd yn ei wynebu; y demtasiwn bob amser yw mynd ati ar unwaith er y byddai’n well cymryd eich amser a deall y broblem yn llawn cyn ceisio ei datrys.
Mae’n mwynhau gallu gweithio ochr yn ochr â thîm ymgynghori hynod dalentog UKI. “Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda chyd-weithwyr eithriadol o dalentog nad ydynt yn eu cymryd eu hunain o ddifrif ... rwyf hefyd wrth fy modd â’r diwylliant agored unigryw a’r brwdfrydedd sydd yn y sefydliad cyfan dros bopeth ffynhonnell agored. Y diwylliant agored hwn sy’n rhoi rhyddid i mi ddilyn fy niddordebau personol ym maes technoleg.
Y cyngor gorau a roddwyd i mi oedd y dylwn gadw meddwl agored bob amser ac ymdrin â phob ffynhonnell wybodaeth mewn modd beirniadol. Mae hyn wedi fy helpu wrth i mi lunio barn ar ddarn o dechnoleg, yn ystod cyfarfodydd â chwsmeriaid a chyd-weithwyr, ac mewn bywyd yn gyffredinol. Hyd y gellir rhagweld, rwy’n bwriadu aros yn Red Hat ac ehangu gwybodaeth yn yr Red Hat canolwedd a phortffolio cwmwl. Yn ffodus, pasiais fy ardystiad RHCE (Peiriannydd Ardystiedig Red Hat), a fy nharged ardystio cyfredol yw’r Arbenigwr Ardystiedig Red Hat mewn Gweinyddiaeth OpenShift.”
“When I was 16, there were two main events which inspired me to choose technology as a career path. The first was doing a week long work experience at a local IT shop. During this week I learned how to build, install and refurbish PCs, ready to be sold second hand to customers. The second was attending a week long Technocamps workshop. This gave me a great flavour into the world of programming and computational thinking.” – Robert Harris