Wrth meddwl am addysg ein plant, efallai rydym yn credu bod gwyddoniaeth a mathemateg yn rhywbeth sydd orau mewn dwylo addysgwyr proffesiynol - maes i athrawon ac ysgolion yn unig. Er nad oes unrhyw beth all cymryd lle'r gwaith pwysig sy'n digwydd yn ein hysgolion, ni ellir tanddatgan dylanwad rhieni ar eu plant. Mae'n amlwg bod rhieni'n cael effaith ddwys ar ddysgu, dyheadau ac agweddau eu plant. Am y rheswm hwn, rydym ni yn Technocamps wedi penderfynu edrych ar ffyrdd o ymgysylltu â rhieni i'w helpu i gefnogi dysgu a mwynhad eu plant wrth meddwl am pynciau STEM.
Cam cyntaf hwn yw holiadur syml i ddarganfod yn union beth fydd rhieni yn ei gael fwyaf defnyddiol - rydym yn awyddus i clywed eich syniadau! Rydyn ni eisiau gwybod pa mor hyderus mae rhieni'n teimlo o ran annog mwynhad naturiol eu plant at wyddoniaeth, os ydyn nhw'n teimlo y gallan nhw helpu eu plant gyda gwaith cartref, ac os ydyn nhw'n gwybod sut i siarad â'u plant am yrfaoedd STEM. Er y gallech deimlo ei bod yn rhy fuan i ddechrau siarad â'ch plant am fyd gwaith, mae tystiolaeth yn awgrymu y gall cael y sgwrs hon yn gynnar rhoi eich plentyn ar y lwybr i lwyddiant yn y dyfodol.
Mae plant yn naturiol chwilfrydig, ond gall rhieni sydd efallai heb camu i fewn i ystafell ddosbarth ers degawdau deimlo bod y byd wedi symud ymlaen ac maent yn ansicr sut i gefnogi synnwyr rhyfeddod eu plentyn, yn enwedig os cawsant nhw eu hunain profiadau gwael yn yr ysgol. Rydym yn awyddus i greu rhywbeth nad yw rhieni yn ei ystyried yn eitem arall sydd angen wneud ar restr di-ddiwedd, ond yn hytrach yn adnodd sy'n rhoi'r offer iddynt roi gogwydd gwyddonol ar y rhianta gwych sydd eisoes yn digwydd.
Os ydych chi'n rhiant ac yr hoffech ein helpu ni, llenwch ein harolwg - mae'n fyr iawn, ac mae lle ar y diwedd i chi roi unrhyw syniadau sydd gennych chi. Bydd unrhyw beth rydych chi'n ei ddweud yn ddefnyddiol dros ben. Byddem hefyd yn ddiolchgar pe gallech rannu hyn ag unrhyw rieni neu grwpiau rhianta eraill yr ydych yn eu hadnabod.