Fiona Humphreys yw’r athro diweddaraf o Ysgol Bro Dinefwr i gwblhau ein cwrs VTCT. Mae’n dilyn dau o’i chyd-weithwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus gyda thîm Technocamps. Hi yw Pennaeth Busnes yr ysgol, ac mae hefyd yn addysgu TGCh, felly roedd y cwrs yn apelio’n naturiol ati.
A hithau heb lawer o wybodaeth am raglennu, cafodd Fiona ei bwrw i’r dwfn i ddechrau. “Roedd yn rhaid i mi addysgu Scratch heb unrhyw wybodaeth flaenorol, ac roedd yn rhaid i mi addysgu fy hun sut i feddwl yn gyfrifiadurol. Dechreuais hefyd redeg clwb codio wythnosol gyda Phennaeth TGCh a Chyfrifiadureg yr ysgol. Dysgais gymaint ganddi a hefyd gan y disgyblion sydd wir ag angerdd am raglennu.”
Mae’r ysgol wedi bod yn hynod gefnogol i’w staff ac wedi cydnabod pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus. Mae angen ymrwymiad sylweddol ar gyfer y cwrs VTCT (18 diwrnod llawn dros flwyddyn academaidd), ond mae’r ysgol a’i disgyblion bellach yn elwa ar eu canfed.
Mae Fiona (a’i chyd-weithwyr) wedi gallu cymryd syniadau ac ysbrydoliaeth o agweddau ar y cwrs, a’u hymgorffori yn eu cynlluniau gwersi, gan chwyldroi’n llwyr y ffordd y mae disgyblion yn dysgu am gyfrifiadureg yn yr ysgol. Mae’r cwrs wedi helpu i greu adran fedrus iawn sy’n barod i goleddu dysgu digidol er budd pob dysgwr yn yr ysgol.
“Erbyn hyn, rwy’n teimlo bod gennyf y sgiliau a’r ddealltwriaeth i addysgu agweddau ar gyfrifiadureg yn hyderus yn yr ystafell ddosbarth. Rwy’n gallu datrys problemau yn gyflymach ac yn haws gan fod cwrs Technocamps wedi rhoi i mi yr wybodaeth a’r profiad i wneud hyn. Gallaf ddarparu gwersi mwy heriol a gafaelgar gan fod gennyf y sgiliau ar flaenau fy mysedd i gyflawni hyn.”