Yn arddangos ein Technoleg Wych yn Oriel Science yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
I ddathlu Wythnos Gwyddoniaeth Prydain a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Gwyddoniaeth Gwych Abertawe yn ddigwyddiad na ddylid ei golli. Cafodd Technocamps y fraint unwaith yn rhagor o gael ei wahodd gan ein partneriaid CoSMOS, sef Oriel Science, i fod yn rhan o'r arddangosfa anhygoel hon. Mae'r digwyddiad hwn yn un gwirioneddol 'wych', ac mae'n cynnig cyfle i deuluoedd gael cipolwg go iawn ar waith gwyddonwyr sy'n mynd i'r afael â phroblemau real bywyd, a hynny mewn labordai ledled y wlad.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar y cyd ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac roedd cyfle i ymwelwyr o bob oed weld amrywiaeth eang o arddangosion gwyddoniaeth rhyngweithiol, a hynny o anifeiliaid a phryfed i feteorynnau ac, wrth gwrs, robotiaid Technocamps a oedd mor boblogaidd ag erioed ymhlith plant ac oedolion.
Cyfarfu Jack a Rama o Technocamps Abertawe â nifer o ymwelwyr, gan ddangos iddynt sut y mae rhaglennu robotiaid Sphero i fynd trwy ddrysfa ddŵr a LegoEV3s, a gynlluniwyd yn benodol, er mwyn cwblhau cwrs rhwystr. Aethom ati hefyd i herio'r ymwelwyr i ddatrys amrywiaeth o bosau cryptograffeg – gan roi gwobrau arbennig i'r rheiny a oedd yn llwyddo i gwblhau pob un ohonynt. Roedd ein llysgenhadon wrth law i helpu unrhyw un a oedd yn cael trafferth cwblhau unrhyw rai o'r heriau, yn ogystal ag egluro rhagor am y gwaith yr ydym yn ei wneud mewn ysgolion.
Er gwaethaf argyfwng presennol y feirws Covid-19, daeth nifer mawr o bobl i'r digwyddiad, gyda mwy na thair mil a hanner o bobl yn ymweld mewn un niwrnod. Er hyn, roedd yr ymwelwyr yn ymwybodol iawn o effaith y feirws, gan ddilyn y canllawiau angenrheidiol ynghylch hylendid ac yn manteisio ar y cyfle i ddysgu am y ffydd gorau o gadw'n ddiogel. Gofynnwyd sawl cwestiwn i ni ynghylch sut y gallai technoleg helpu i ddarparu adnoddau y mae eu hangen yn fawr, yn ogystal â helpu pobl i ddod â'u cymunedau ynghyd trwy ddulliau rhithwir.