Gan adeiladu ar waddol ITWales, mae Technocamps yn cynnal y Cinio Dathlu Blynyddol ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2020.
Mae Technocamps yn falch o gynnal y Dathliad Gala blynyddol ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a gynhaliwyd eleni yng Ngwesty'r Marriott, Abertawe yr wythnos diwethaf. Mae'r noson wedi datblygu'n achlysur rheolaidd yng nghalendr cymdeithasol Cymru, gyda'r gwesteion yn teithio o bob cwr o'r wlad.
Roedd yr achlysur eleni yn dathlu 20 mlynedd o gynnal y digwyddiad sy'n canolbwyntio ar fenywod sy'n gweithio ym maes STEM. Ymhlith y siaradwyr gwadd yr oedd Catrin Atkins o Sonix Software a chyd-sylfaenydd Merched mewn Technoleg yng Nghymru, ynghyd â Louise Harries, Prif Swyddog Gweithredol y Big Learning Company a gamodd i'r adwy ar fyr rybudd i gymryd lle un o'n siaradwyr a oedd yn sâl. Rydym yn gwerthfawrogi ei mewnbwn craff ac ysbrydoledig a amlygodd, yn gryno, y materion y mae menywod sy'n gweithio ym maes technoleg yn eu hwynebu.
Roedd hefyd yn fraint cael clywed gan ein Noddwr, sef Beti Williams MBE, a agorodd y sgyrsiau trwy sôn yn frwd am ei thaith ei hun wrth sefydlu gwaddol ITWales, a hynny ar adeg pan oedd y cyfleoedd i fenywod ym maes technoleg yn eithaf prin. Ar sail y gwaddol hwn y tyfodd y rhaglen Technocamps, sy'n parhau i ffynnu ac ehangu.
“Roedd y dathliad eleni yn arbennig iawn; dyma'r ugeinfed flwyddyn i ni gynnal y digwyddiad i gefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rwy'n hynod o falch o'r gwaddol y mae ITWales wedi'i greu ac sy'n parhau i ddatblygu trwy gyfrwng rhaglen Technocamps; rhaglen sydd wedi ehangu ymhell y tu hwnt i'n disgwyliadau gwreiddiol. Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn ysgolion, colegau ac mewn diwydiannau ledled y wlad yn hynod bwysig, ac mae'n wych gweld cynifer o gefnogwyr yn dal i wthio'r agenda yr oeddem yn bwriadu ei chyflawni yn wreiddiol.”
Beti Williams MBE
Canmolodd Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg, y gwaith a wnaed gan y rhaglen Technocamps i hyrwyddo agenda STEM mewn ysgolion ac i uwchsgilio gweithwyr, a hynny wrth i Gymru anelu at ddyfodol digidol. Roedd hi hefyd yn awyddus i gydnabod bod yna lawer o waith i'w wneud o hyd er mwyn mynd i'r afael â'r cydbwysedd rhwng y rhywiau ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg, a hynny ymhlith y gweithlu cyffredinol yng Nghymru.
Manteisiodd ein siaradwr olaf, Louise O'Shea, Prif Swyddog Gweithredol y grŵp cymharu yswiriant Confused.com, ar y cyfle i annog pawb i fabwysiadu meddylfryd mwy agored, didwyll a brwdfrydig, gan gynnwys y rheiny ym maes diwydiant, ynghyd ag annog aelodau o'r gynulleidfa i feddwl mewn modd gwahanol ac i fod “yn fwy lama.”
“Nid oes yna fonopoli o ran doethineb na syniadau … mae pob un ohonom yn awyddus i weld rhagor o fenywod ym maes technoleg, ond mae angen i ni sicrhau bod pawb ar yr un donfedd.”
Louise O’Shea
Wrth gloi’r sgyrsiau, diolchodd yr arweinydd Kevin Johns MBE i bawb am fod yn bresennol, gan ddiolch yn arbennig i Beti Williams MBE sydd wedi bod yn hynod o ddylanwadol ar hyd y blynyddoedd o ran cynnal y momentwm a sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal bob blwyddyn.
Mae'r Oriel Luniau bellach ar gael yma: