Eleni lansiwyd Rhwydwaith Model Rôl newydd Technocamps ar gyfer merched sy’n gweithio ym maes STEM, ar y cyd â Women in Tech Cymru.
Nod y rhwydwaith yw sefydlu cysylltiadau rhwng merched sy’n gweithio yn y sector (technoleg yn benodol) gyda chyfarfodydd rheolaidd i ddysgu o brofiad ei gilydd yn y gweithle ac i gefnogi ac ysbrydoli’r rheiny ar lwybr gyrfa gynnar.
Hyd yn hyn bu dau ddigwyddiad yn Abertawe a Phontypridd, a’r gobaith yw y gallwn ddatblygu’r rhwydwaith gyda digwyddiadau yn holl ranbarthau Cymru wedi’u cynllunio dros y misoedd nesaf.
Mae Technocamps yn annog aelodau’r rhwydwaith i gymryd rhan yn y pros- iect. Bellach gallwn gynnig cyfleoedd i unigolion, cwmnïau a sefydliadau eraill ymgysylltu â phobl ifanc trwy ddatblygu rhwydwaith model rôl cryf i gefnogi’r gwaith a wnawn mewn ysgolion.
"Roedd yn noson ysbrydoledig iawn a gadewais yn teimlo yn llawn parchedig ofn tuag at yr holl siaradwyr cryf."
Corrine John, Prifysgol De Cymru