Mae Darlithoedd Nadolig y Sefydliad Brenhinol wedi hen ennill eu plwyf yng Nghalendr y DU ac eleni llwyddodd dau bartner Prifysgol Technocamps i ffrydio ffilmio’r sioe ‘yn fyw’ i gynulleidfa o bobl ifanc gyffrous a’u teuluoedd.
Gweithiodd y tîm Technocamps ar y cyd â Phrosiect Gwyddoniaeth Oriel Prifysgol Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar gyfer un o’r ffrydiau byw. Yn y cyfamser cynhaliodd Prifysgol De Cymru ail ddiwrnod o ffilmio, ac roedd ein Swyddogion Cyflenwi wrth law i arddangos y gwaith rydyn ni’n ei wneud mewn digwyddiad derbyniad arbennig.
Roedd thema eleni yn arbennig o berthnasol yn yr hinsawdd ddigidol sydd ohoni. Canolbwyntiodd ‘Cyfrinachau a Chelwyd- dau’, a gyflwynwyd gan Hannah Fry, ar bŵer mathemateg ac yn benodol ar dri chwestiwn allweddol: A oes unrhyw broblemau na all neu na ddylai mathemateg eu datrys? A oes gan algorithmau cyfrifiadurol ormod o reolaeth dros ein bywydau a’n preifatrwydd? A allai Deallusrwydd Artiffisial benderfynu p’un a yw rhywun yn byw neu’n marw?
Mae ffilmio ar gyfer teledu yn cymryd llawer o amser ac mae’n anochel bod bylchau ac egwyliau lle mae fframiau’n cael eu hail-ffilmio neu ail-osod golygfeydd. Llwyddodd Technocamps i lenwi’r holl ‘amser gwag’ gyda gemau a gweithgareddau meddwl cyfrifiannol gan gadw’r gynulleidfa wedi’u diddanu. Er yn anhrefnus ar brydiau, roedd y ddwy noson yn hynod lwyddiannus. Roedd cyffro amlwg gyda phobl ifanc yn dod i o’r digwyddiad wedi eu hysbrydoli a’u cyffroi am fathemateg a chyfrifiadureg.
"Oherwydd nid yw’r dyfodol yn digwydd ohono ei hun. Ni sy’n ei greu.”
Dr Hannah Fry, Athro Cysylltiol, Coleg Prifysgol Llundain