We are proud and privileged to continue our long-term relationship with Swansea’s DVLA and once again sponsored their annual ‘Code Challenge’ competition.
The competition is open to both primary and secondary schools who work in teams to rise to the challenge of using coding to produce apps, games, webpages, etc. This year’s challenges included designing a game to keep children safe online, creating an app to fight superbugs in hospitals, and our very own ‘Disaster Droid’ challenge where the teams are asked to create a robot to help at times of environmental disaster.
Rydym yn falch ac yn llawn cymhelliant i barhau â’n perthynas hirdymor â DVLA Abertawe ac unwaith eto fe wnaethom noddi eu cystadleuaeth flynyddol ‘Yr Her Godio’. Mae’r gystadleuaeth yn agored i ysgolion cynradd ac uwchradd, sy’n gweithio mewn timau i ymateb i’r her o ddefnyddio codio i gynhyrchu apiau, gemau, tudalennau gwe, ac ati. Roedd heriau eleni yn cynnwys dylunio gêm i gadw plant yn ddiogel ar-lein, creu ap i frwydro yn erbyn heintiau difrifol mewn ysbytai, a’n her ‘Tech Trychineb’ ein hunain lle gofynnir i’r timau greu robot i helpu ar adegau o drychineb amgylcheddol. Daeth y gystadleuaeth i ben gyda seremoni wobrwyo ysblennydd gyda gwobrau gwerth cannoedd o bunnoedd yn cael eu dyfarnu i’r ysgolion wnaeth berfformio orau. Wrth law i gynnal y seremoni, roedd cyflwynydd y BBC, Sian Lloyd, oedd wedi’i syfrdanu gyda safon y ceisiadau. Gofynnwyd hefyd i Reolwr Prosiect Technocamps, Julie Walters, farnu’r ceisiadau, gan ddefnyddio ei gwybodaeth arbenigol yn dda.
"Trwy gymryd rhan yn yr her, gall egin raglenwyr ddatblygu eu galluoedd codio mewn ffordd hwyliog a difyr. Mae’r gystadleuaeth hefyd yn ceisio hyrwyddo gwaith tîm a chyfathrebu – mae’r rhain i gyd yn sgiliau cynyddol bwysig yng ngweithleoedd heddiw ac yfory.”
Mark Jones, Rheolwr TG DVLA a Llysgennad STEM