Roedd yn ddiwrnod anhygoel ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes addysg ledled Cymru wrth i Technocamps gynnal diwrnod dysgu digynsail, gyda’r nod o ysbrydoli ac ysgogi pawb sy’n gweithio yn y sector addysg – o’r cynradd i lefel ôl-raddedig.
Dechreuodd y diwrnod wrth i Gynadleddau Rhanddeiliaid gael eu cynnal ar yr un pryd yn Stadiwm Liberty, Abertawe, ac ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd tua 100 o athrawon a rhanddeiliaid wedi cofrestru i ddysgu rhagor am effaith y cwricwlwm newydd a sut y byddai’n effeithio arnynt yn yr ystafell ddosbarth. Roedd y tîm wrth law i egluro sut y gallai adnoddau Technocamps helpu i gyflwyno agweddau ar Feysydd Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn eu hysgolion wrth iddynt baratoi ar gyfer y newidiadau sydd i ddod.
Aeth staff cyflenwi Technocamps ati i arddangos rhai o’r gweithdai sydd ar gael; darperir pob un ohonynt am ddim i ysgolion yng Nghymru. Yn ogystal â darparu adnoddau addysgu, roedd y sesiynau’n cynnig awgrymiadau ac arweiniad y gellir eu defnyddio i gynnwys cyfrifiadureg a meddwl cyfrifiadurol wrth gyflwyno yn yr ystafell ddosbarth. Rhannwyd y gweithdai yn rhai cynradd ac uwchradd, gyda phynciau perthnasol megis dysgu peirianyddol, moeseg, ceir awtonomaidd a chryptograffeg ar y ddewislen.
Roedd yr athrawon yn y digwyddiad yn hynod o gadarnhaol ynghylch eu profiad:
“Roedd yr adnoddau a ddarparwyd yn wych. Roedd arweinwyr y gweithdai yn anhygoel ac yn cyflwyno pynciau anodd mewn ffordd ddiddorol iawn.”
“Roedd y gweithdai yn addysgiadol iawn, ac roedd yr agwedd ryngweithiol yn ddiddorol.”
“Newid i’w groesawu yn lle’r ffordd gul o feddwl, a chyfle i’n hannog i symud tuag at y cwricwlwm newydd yn llawn egni yn hytrach nag ofn.”
Aeth y siaradwr gwadd, James Smith o grŵp Dev-Ops, ati i bwysleisio’r prinder sgiliau yn y diwydiant cyfrifiadureg a’r angen i hyfforddi ac uwchsgilio pobl ifanc er mwyn diwallu anghenion yr economi yng Nghymru a sicrhau ei dyfodol fel arweinydd digidol.
“Roedd yn braf iawn dod i weld gweithdai Technocamps ar waith a rhyngweithio â chynifer o bobl wych mewn digwyddiad gwirioneddol gampus.”
Cafodd Technocamps hefyd y fraint o ddilyn Cynhadledd y Rhanddeiliaid trwy gynnal ‘Cwricwlwm ar gyfer Llwyddiant?’ ar ran Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn y Ffowndri Gyfrifiadurol ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe.
Roedd y digwyddiad mawreddog hwn yn cynnig cyfle i weithwyr proffesiynol ym maes addysg a rhanddeiliaid eraill glywed yn uniongyrchol gan y bobl sydd wedi cynllunio’r cwricwlwm newydd ac sy’n ei roi ar waith ym mhob ysgol ledled Cymru. Roedd hwn yn gyfle prin i addysgwyr glywed am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r newidiadau, a hynny yn uniongyrchol gan y bobl a’u cynlluniodd.
Llwyddodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru i gyflawni ei datganiad cenhadaeth ‘i hyrwyddo rhagoriaeth ac ysgolheictod, ysbrydoli dysgu a bod o fudd i’r genedl’. Wrth law i ateb cwestiynau gan y gynulleidfa yr oedd Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg yng Nghymru; yr Athro Graham Donaldson y bu i’w argymhellion ysbrydoli’r newidiadau; a’r Athro Tom Crick, a gyflawnodd rôl bensaernïol allweddol wrth ddylunio’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Cafodd trafodion y noson eu ffrydio’n fyw i gynulleidfa ym Mhrifysgol Bangor: enghraifft wych o gydweithio rhwng sefydliadau academaidd, gan dynnu’r gogledd a’r de at ei gilydd. Amlygodd pawb y nod a rennir o baratoi i ddelio â’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Pwysleisiodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, y gwaith cadarn a wneir ar hyn o bryd mewn ysgolion, a’r modd y byddai’r cwricwlwm newydd yn sicrhau bod pobl ifanc wedi’u harfogi ar gyfer y dyfodol:
“Cam dewr iawn yw gofyn i unrhyw wleidydd edrych tuag at ddyfodol llwyddiannus ... fodd bynnag, rwy’n hyderus bod ein rhaglen ddiwygio uchelgeisiol a chyfunol yn cyflawni ’nawr ac ar gyfer dyfodol llwyddiannus iawn.”
Soniodd yr Athro Donaldson am yr athroniaethau sy’n sail i’r newidiadau:
“Mae Cymru wedi ceisio dysgu gwers o ran sut i fynd ati i gyflawni diwygiad trawsnewidiol mewn ffordd sydd wir yn golygu y bydd pob plentyn, ym mhob ystafell ddosbarth, ym mhob rhan o Gymru, yn elwa ar y diwygiad hwnnw.”
Aeth yr Athro Faron Moller, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cyfarwyddwr Technocamps, a Phennaeth y Sefydliad Codio yng Nghymru, ati i grynhoi effaith y dydd. Roedd yn awyddus i bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod sgiliau meddwl cyfrifiadurol a sgiliau cyfrifiadureg yn cael eu haddysgu pan fo plant yn ifanc iawn:
“Nid cwricwlwm ar gyfer sêr talentog yn unig fydd hwn ... mae ar gyfer pob person ifanc yng Nghymru, a bydd gan Gyfrifiadureg linyn dysgu clir o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg.”
Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, nododd yr Athro Tom Crick:
“Dyma’r cyfle mawr i ailfeddwl ... Rydym am i bawb gydnabod bod deall Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn rhan allweddol o fod yn ddinesydd Cymru.”
Cafodd aelodau’r gynulleidfa gyfle i ofyn cwestiynau mewn trafodaeth banel, a chafwyd dadl fywiog lle codwyd nifer o bwyntiau perthnasol am gyflwr addysg yng Nghymru.
Daethpwyd â’r trafodion i ben gan yr Athro Alma Harris, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chadeirydd Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe, wrth iddi ddiolch yn ddiffuant i’r siaradwyr anrhydeddus am neilltuo amser yn ystod eu hamserlenni prysur i gymryd rhan mewn sesiwn mor addysgiadol a gwerthfawr.