Mae pedwar ar ddeg o fyfyrwyr yn rhan o'r garfan gyntaf erioed o Brentisiaid Gradd yng Nghymru, a bydd pob un ohonynt yn graddio eleni gyda gradd BSc (Anrh) mewn Peirianneg Meddalwedd Cymhwysol o'r Adran Gyfrifiadureg.
Mae'r Rhaglen Prentisiaeth Gradd yn cyfuno dysgu academaidd traddodiadol mewn amgylchedd Prifysgol â phrosiectau yn y gwaith sy'n galluogi'r myfyrwyr i gymhwyso eu gwybodaeth academaidd newydd yn eu swyddi penodol yn eu cwmnïau. Mae'r rhaglen arloesol hon yn galluogi'r myfyrwyr i “ennill cyflog a dysgu”, er mwyn aros mewn cyflogaeth lawn-amser wrth iddynt astudio ar gyfer gradd BSc (Anrh), sy'n rhoi eu dysgu academaidd yng nghyd-destun eu hamgylchedd gwaith.
Paul Finch, un o weithwyr EPS Construction Ltd, yw un o raddedigion eleni. Roedd ei brosiect blwyddyn olaf yn canolbwyntio ar ddylunio meddalwedd a fyddai’n helpu i ddatrys problem i’w gyflogwr. Mae Cyfarwyddwr ei gwmni, Jonathan Fleming, wedi dweud bod ei gwmni wedi mwynhau buddion enfawr o ganlyniad:
“Fel rhan o’i brosiect blwyddyn olaf creodd Paul ddarn pwrpasol o feddalwedd sy’n ffurfio rhan o’n systemau ariannol cefn. Rydym yn rhagweld y bydd y feddalwedd yn arbed £400,000 y flwyddyn i EPS mewn amrywiannau contractau a fydd yn cael eu hadfer."
Mwynhaodd Paul ei hun y cwrs a'r heriau a gynigiodd:
“Rydw i wedi mwynhau’r amser ac, yn bwysicaf oll, rydw i wedi dysgu sgiliau newydd sydd wedi bod o fudd i fy musnes a minnau.”
Roedd Owen Dane Griffiths, un arall o raddedigion eleni, yr un mor frwd ynghylch ei brofiadau:
“Er fy mod wedi ei gweld yn anodd, dyma'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed; byddwn yn argymell yn fawr astudio’r cwrs Prentisiaeth Gradd ym Mhrifysgol Abertawe.”
Ariennir y cyrsiau'n llawn ar gyfer y myfyriwr, gyda chymorth gan y Sefydliad Codio yng Nghymru a Llywodraeth Cymru trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae'r Sefydliad Codio yng Nghymru yn bartneriaeth fawr dan arweiniad Prifysgol Abertawe sy'n rhan o'r Sefydliad Codio Cenedlaethol yn Lloegr. Cafodd ei sefydlu i fynd i'r afael â'r bwlch cydnabyddedig o ran sgiliau digidol yn y gweithlu, ac i greu'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol. Bwriad gwreiddiol y rhaglen oedd helpu i unioni'r 'prinder sgiliau' ym maes Cyfrifiadureg yn y rhanbarth, ac mae'r Rhaglen Prentisiaeth Gradd yn hynod boblogaidd: bydd gan Brifysgol Abertawe dros 75 o brentisiaid gradd wedi'u cofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Mae'r DVLA, ymhlith sefydliadau eraill, wedi bod yn rhan o'r rhaglen prentisiaeth gradd ac wedi ei chefnogi'n fawr ers ei sefydlu fel Gradd Sylfaen yn 2012. Roedd sawl aelod o staff o'r DVLA yn rhan o'r garfan gyntaf o raddedigion, a dyma mae'n ei olygu i'r sefydliadau. Dywedodd Brian Sullivan, Prif Swyddog Technoleg y DVLA:
"Rydyn ni wedi canolbwyntio ar recriwtio a datblygu staff ar draws ystod eang o rolau mewn TG. Rwyf bob amser yn gyffrous am newidiadau mewn TG ac yn frwdfrydig ynglŷn â sut y gallwn wella. Mae'r cynllun prentisiaeth yn caniatáu i bawb, p'un a ydynt yn newydd sbon i TG neu wedi gweithio ynddo am nifer o flynyddoedd, i gynyddu eu sgiliau a sicrhau y gallant ragori nawr ac yn y dyfodol."
Mae cwmnïau mawr eraill fel Admiral Insurance yn cydnabod buddion y rhaglen o ran darparu DPP i staff, yn ogystal â chynnig atebion i broblemau yn yr amgylchedd gwaith. Canmolodd Mark Marrin, Rheolwr Gweithrediadau TG werth y rhaglen i'w weithwyr:
"Mae Jamie wedi gwneud y mwyaf o’r cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen gan gyflawni gradd dosbarth 1af. Rydym yn falch iawn o'r ymdrech a roddodd i'w astudiaethau wrth barhau i fod yn aelod allweddol o'n tîm TG. Mae'r wybodaeth y mae wedi'i hennill wedi ein galluogi i ddatblygu ein galluoedd a Jamie i ddod yn weithiwr proffesiynol TG mwy gyflawn."
O ganlyniad, mae'r nifer sy'n dilyn y rhaglen wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae ei henw da yn parhau i dyfu.
Roedd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps a Phennaeth y Sefydliad Codio yng Nghymru, yn awyddus i ganmol agwedd graddedigion eleni at waith a'u hymrwymiad, ac anogodd mwy o gyflogwyr i fanteisio ar y rhaglen a'r buddion y gall eu cynnig i'w cwmnïau:
“Er mai yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig y cyflwynwyd y Fframwaith Prentisiaeth Gradd yng Nghymru, mae’r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe – ac yn benodol ei gweithrediad allgymorth ac ymgysylltu cenedlaethol, Technocamps – wedi hyrwyddo rhaglenni prentisiaethau uwch digidol ers blynyddoedd lawer. Felly roedd gennym garfan o brentisiaid yn barod i ymuno'n uniongyrchol â blwyddyn olaf y rhaglen Prentisiaeth Gradd pan gafodd ei chyflwyno yng Nghymru y llynedd. Rydym yn falch o fod yn arwain Cymru yn hyn o beth.”
Llongyfarchodd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Martin Stringer, y prentisiaid ar eu llwyddiant, ac roedd yn edrych ymlaen at eu gweld yn graddio'n ffurfiol ym mis Rhagfyr 2019:
“Rydym yn falch iawn bod gennym y garfan gyntaf o Brentisiaid Gradd yn graddio eleni. Mae'n bwysig iawn o ran gwella sgiliau'r gweithlu yn y rhanbarth. Rydym yn parhau i feithrin cysylltiadau rhagorol â'r diwydiant ehangach ac i weithio gyda llawer o gwmnïau lleol i uwchsgilio eu staff. Rydym yn edrych ymlaen at helpu i ddatblygu’r sgiliau y mae eu hangen yn y diwydiant i wella’r economi ac i adeiladu ar gyfer y dyfodol digidol.”