Mae Technocamps yn hynod falch o allu cyhoeddi a dathlu llwyddiant ein graddedigion diweddaraf o'r cwrs VTCT/Technoteach. Mae pymtheg o athrawon ysgolion cynradd a thri o athrawon ysgolion uwchradd o bob cwr o Gymru wedi cwblhau'r rhaglen eleni, a hoffem longyfarch pob un ohonynt yn ddiffuant.
Cyflwynir y cwrs VTCT yn rhad ac am ddim yng Nghymru, ac mae'n darparu cymhwyster gwerthfawr a chydnabyddedig i athrawon. Yn bwysicaf oll, mae'r cwrs yn rhoi'r sgiliau a'r hyder i athrawon allu cyflwyno gwersi cyfrifiadureg mewn ysgolion. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng ngoleuni'r Cwricwlwm newydd i Gymru, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd ac sydd i'w weithredu yn 2022, lle mae sgiliau meddwl cyfrifiadurol wedi'u hymgorffori ym Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar bob lefel.
Mae ein graddedigion VTCT bellach yn gallu mynd yn ôl i'w hysgolion a lledaenu eu gwybodaeth a'u profiad ymhlith eu cydweithwyr, gan helpu i wella ansawdd addysgu cyfrifiadureg fel rhan o'r cwricwlwm newydd amrywiol hwn.
Stephen Blake o Ysgol Penlle'r-gaer yw un o raddedigion eleni:
“The course provided me with the tools to deliver the curriculum confidently and has given me the opportunity to support and upskill other members of staff… a fantastic course which has helped me understand clearly all aspects of computational thinking.”
Stephen Blake
Ar gyfer ein holl raddedigion, mae'r cwrs wedi helpu i ddatblygu eu sgiliau ac wedi'u helpu i ddatblygu adnoddau a deunyddiau y gallant fynd ati i'w defnyddio yn eu hystafelloedd dosbarth eu hunain. Rhoddir cymorth ac arweiniad i bob athro gan un o'n swyddogion darparu arbenigol, ac rydym wedi cyflwyno'r cwrs eleni yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Disgrifiodd Chloe Stoneman o Ysgol Gymraeg Casnewydd ei phrofiadau:
“Helpodd y sesiynau i ddatblygu fy hyder a'm gwybodaeth, ac roedd Luke yn wych o ran rhoi cymorth a datblygu fy nealltwriaeth.”
Chloe Stoneman
Roedd Neil Arbery o Ysgol Gynradd Nottage yn falch iawn o'r cynnydd a wnaeth mewn cyfnod byr iawn.
“My knowledge on coding prior to this course was very limited and I would have struggled to deliver effective lessons. However, since attending this course, I am much more confident and have actual resources to use in class.”
Neil Arbery
Unwaith eto, hoffem longyfarch yn ddiffuant bob un o'n graddedigion, a gobeithio y byddwn yn eich gweld pan fyddwn yn ymweld â'ch ysgolion i gyflwyno un o'n gweithdai gwych.
We are currently recruiting teachers for the 2019/20 programme. You can find out more about the course here.
https://www.technocamps.com/en/news/free-accredited-cpd-opportunity-for-teachers-across-wales-2019.