Mae Technocamps yn parhau i hyrwyddo ei enw da yn rhyngwladol ym maes Addysg Cyfrifiadureg wrth i ni anelu at arddangos ein gwerthoedd craidd, sef ysbrydoli, bod yn greadigol a chael hwyl, ar y llwyfan byd-eang. Mewn blynyddoedd blaenorol, mae Technocamps wedi cefnogi a mentora nifer o dimau o Gymru a fu'n cystadlu yn erbyn timau eraill o bob cwr o'r byd yn rhan o Ŵyl Fyd Cynghrair Lego First©. Mae'r ŵyl yn herio pobl ifanc i feddwl fel gwyddonwyr a pheirianwyr, ac yn hyrwyddo gwerthoedd megis gweithio mewn tîm, darganfod a phroffesiynoldeb graslon ar yr un pryd.
Mae'r digwyddiad yn Detroit yn un nodedig ar gyfer holl dîm Technocamps. Rydym yn hynod falch bod y trefnwyr wedi gwahodd ein Rheolwr Gweithrediadau, Stewart Powell, i ymuno â phanel o feirniaid uchel eu parch, ac i asesu timau yn adran Dylunio Robot y gystadleuaeth; adlewyrchiad o'r parch mawr y mae rhaglen Technocamps wedi'i feithrin, a hynny mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol, fel ei gilydd.
“Rwy'n falch iawn o gael mynd i Ŵyl Fyd First©am y drydedd flwyddyn o'r bron, ac rwy'n arbennig o falch eleni o gael fy ngwahodd fel beirniad y gystadleuaeth Dylunio Robot. Mewn blynyddoedd blaenorol, rwyf wedi cefnogi dau dîm o Gymru i gystadlu yng Ngŵyl y Byd, lle mae lefel y gystadleuaeth yn ffyrnig! Rwy'n edrych ymlaen at weld yr amrywiaeth arloesol ac eang o eitemau mecanyddol a meddalwedd a ddyluniwyd gan dimau o bob cwr o'r byd. Mae'n fraint cael fy ngwahodd i fod yn feirniad, ac rwy'n edrych ymlaen yn arw at chwifio'r faner ar ran Cymru a'r sector technoleg yng Nghymru.”
Stewart Powell
Mae'r ŵyl yn ddathliad o ofod, arloesedd a STEM, gyda dros 70,000 o bobl yn dod o bob cwr o'r byd i fod yn rhan o bythefnos o weithgarwch dwys. Gosodir her i dimau ddylunio robot sy'n defnyddio technoleg LEGO®MINDSTORMS® gyda'r nod o ddatrys problem byd go iawn, a hynny trwy feddwl mewn modd arloesol a defnyddio technegau peirianneg a rhaglennu cymhleth. Bydd mil tri chant o robotiaid yn mynd benben â'i gilydd yn ystod y gystadleuaeth, a bydd yn ofynnol i'r timau wneud sioe o'u creadigaethau ac arddangos y prosesau a ddefnyddiwyd ganddynt i ddatblygu eu strategaethau ar gyfer datrys gêm y robotiaid. Caiff pob tîm ei sgorio ar ei gynllun, ei sgiliau rhaglennu, ei strategaeth a'i arloesedd. Cyhoeddir yr enillwyr ar ddiwedd y digwyddiad.
Mae'r ŵyl yn cysylltu addysg â'r Diwydiant Technoleg, gan gynnig cyfle i bobl ifanc feithrin eu sgiliau cyfrifiadurol, gwyddonol a pheirianneg. Mae Technocamps yn edrych ymlaen at greu cysylltiadau a chydweithrediadau rhyngwladol newydd, nid yn unig ag ysgolion a cholegau o bob cwr o'r byd, ond hefyd â Chwmnïau Rhyngwladol sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygiad cyfrifiadureg a thechnoleg yn fyd-eang.