Mae tîm Technocamps newydd ddychwelyd o antur anhygoel dramor, lle rhoddwyd llwyfan byd-eang i'r rhaglen trwy gyfrwng taith i Hong Kong, a hynny ochr yn ochr â'n partneriaid cydweithredol, sef Theatr na nÓg. Mae'r Ŵyl SPARK yn ddigwyddiad newydd sbon gan y British Council, sy'n dathlu creadigrwydd ledled y celfyddydau, y gwyddorau a’r byd addysg. Roedd cael gwahoddiad i ymuno â'r dathliadau yn fraint i Technocamps, a hynny er mwyn cynnal gweithdai technegol, a gynlluniwyd yn arbennig i gyd-fynd â'r dangosiad Asiaidd cyntaf o sioe gerdd arobryn Theatr na nÓg, sef Eye of the Storm.
Mae gan Technocamps brofiad helaeth o gynnal gweithdai sy'n ymwneud â rhaglennu, datblygu gemau, roboteg, codio ac apiau. Mae ein rhaglen eisoes yn darparu ar gyfer mwy na 45,000 o bobl ifanc yng Nghymru, a disgwylir i'r rhaglen dyfu ac ehangu yn sgil y cyllid a sicrhawyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru.
Mae Eye of the Storm yn sioe gerdd llawn swae, a ysgrifennwyd yn arbennig, ac mae'n cyfuno perfformiad dramatig cyffrous â thrac sain rhythmig a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr arobryn, Amy Wadge. Mae wedi'i gosod yng nghymoedd Cymru ac yn adrodd stori Emmie, gofalwr ifanc sy'n dyfeisio corwynt artiffisial i gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae tîm Technocamps wedi cydweithio â chynhyrchwyr y sioe i ddatblygu gweithdai ysbrydoledig sy'n cyd-fynd â'r perfformiadau mewn ysgolion, gan wella'r profiad creadigol, ynghyd ag adeiladu ar y themâu addysgol sy'n sail i'r naratif. Mae'r gweithdai yn herio plant i feddwl mewn modd creadigol, gan annog agwedd at ddysgu sy'n seiliedig ar y syniad bod
"creadigrwydd yn hanfodol i artistiaid, gwyddonwyr a rhaglenwyr, fel ei gilydd."
Cafodd Stewart Powell, Rheolwr y Rhaglen ar gyfer Technocamps, ei ysbrydoli'n fawr gan y profiad, ac mae'n edrych ymlaen at feithrin partneriaethau hyd yn oed yn agosach â Theatr na nÓg a'r British Council, fel ei gilydd:
“Cenhadaeth Technocampsyw ysgogi, ysbrydoli, a chefnogi'r genhedlaeth nesaf o gyfrifiadurwyr; felly, roedd cael y cyfle i ehangu ar hyn gyda disgyblion ac addysgwyr yn Hong Kong, a hynny yn rhan o'n partneriaeth â Theatr na nÓg,yn brofiad heb ei ail.Yn rhan o'r ymweliad, cawsom gyfle i weithio'n agos gyda'r British Council i archwilio ffyrdd o gyflwyno ein rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus achrededig ar gyfer athrawon i addysgwyr yn Hong Kong yn y dyfodol.Ar y cyfan, bu'r daith yn llwyddiant mawr, ac edrychwn ymlaen at fynd â rhagor o'n gweithgareddau i Hong Kong yn y dyfodol agos."
Stewart Powell
Er gwaethaf rhai pryderon, roedd Luke Clement, Swyddog Cyflawni Technocamps, yn falch iawn bod y rhaglen wedi cael effaith parhaol ar y rhai a fanteisiodd arni.
"Diflannodd fy mhryderon cychwynnol yn sydyn am wahaniaethau posibl yn y cwricwlwm a'r gallu i ddeall terminoleg wyddonol Saesneg, ac fe'm synnwyd gan ddiddordeb y plant mewn gwyddoniaeth a'u gallu i feddwl mewn modd creadigol. Nid yn unig yr oedd yn brofiad gwych i amlygu'r cysylltiadau cryf sy'n perthyn i'r byd gwyddonol a'r byd creadigol, ond roedd hefyd yn gyfle i feithrin ymwybyddiaeth o Technocamps, ynghyd â'r gwaith yr ydym yn ei wneud i ysbrydoli ac ennyn diddordeb plant ysgol mewn pynciau STEM."
Luke Clement
Mae'r tîm cyfan yn llawn cyffro bod brand Technocamps nawr yn gallu hawlio'i le ar y llwyfan byd-eang, a hynny heb unrhyw amheuaeth. Rydym yn awyddus i ddatblygu yn arweinwyr o ran arloesedd addysgol, ynghyd â gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau plant ledled y wlad trwy gefnogi agenda STEM yng Nghymru.