Cafodd y cyhoeddiad ei wneud mewn digwyddiad Ymddiriedolaeth y Tywysog yng Nghaerdydd, a chadarnhawyd y byddai Rhaglen Technocamps Adran Gyfrifiadureg y Brifysgol yn cael £5.3 miliwn gan Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
Nod y rhaglen Technocamps tair blynedd yw ysbrydoli a chymell disgyblion ledled Cymru i ddysgu mwy am Gyfrifiadureg a phynciau STEM. Bydd y rhaglen yn ymgysylltu â 3,600 o ddisgyblion. Mae yna ffocws penodol ar ferched - i helpu i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau o fewn Cyfrifiadureg - merched fydd dwy ran o dair o'r disgyblion a fydd yn cael eu targedu.
Bydd y rhaglen yn targedu disgyblion o ysgolion sy'n cael trafferth i gynnig neu gyflwyno Cyfrifiadureg ar lefel TGAU gyda'r bwriad o annog a chefnogi ysgolion i gynnig y cymhwyster hwn yn y blynyddoedd i ddod.
Bydd yr holl bobl ifanc yn cwblhau Rhaglen Cyfoethogi STEM dros flwyddyn ysgol, gan gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau Cyfrifiadureg a STEM yn yr ysgol ac ar gampysau prifysgol.
Byddant yn edrych ar nifer eang o bynciau megis:
- Rhaglennu Python
- Systemau seiber-ffisegol
- Datblygu Apiau
- Deallusrwydd artiffisial
Byddant hefyd yn dysgu sut i gymhwyso'r pynciau hyn mewn ystod o feysydd pwnc megis mathemateg, ffiseg, cemeg a gwleidyddiaeth.
Dywedodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps: "Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad ariannu hwn yn fawr iawn. Bydd y cyllid yn helpu i sicrhau na fydd pobl ifanc yng Nghymru, yn enwedig rhai mewn ysgolion lle mae cynnig cwrs TGAU mewn Cyfrifiadureg yn her, yn cael eu gadael ar ôl wrth ennill sgiliau allweddol o'r fath. Rydym wedi ymrwymo i yrru hyn ymlaen a thrwy helpu pobl ifanc i ennill y sgiliau sylfaenol hyn, rydym yn gobeithio eu paratoi i gofleidio’r byd digidol sydd bellach yn cwmpasu ein bywydau bob dydd.
"Rydym hefyd eisiau gweld addysg cyfrifiadureg yn ymestyn i ehangu cyfranogiad, gan ddarparu cyfleoedd uwchsgilio digidol i bobl mewn cyflogaeth yn ogystal â chyfleoedd amrywiol ar gyfer dysgu gydol oes."