Ar 21ain o Fehefin, cafodd gweithgareddau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe eu cydnabod fel rhan o noson wobrwyo a oedd yn amlygu ehangder ymchwil ac arloesedd ym Mhrifysgol Abertawe.
Meddai'r Athro Richard B Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe:
“We are celebrating the distinctive Swansea University emphasis upon making a difference. We are showcasing a wide range of exceptional research and innovation taking place at Swansea University, and the impact this is having across the world. Much of this is as a direct result of our collaborations with private and public-sector organisations, and I would like to take this opportunity to thank all our partners.”
Richard B Davies
Fel rhan o'r digwyddiad rhoddwyd gwobrau mewn deg categori gwahanol i ganmol effaith unigolion a phrosiectau ar draws y Brifysgol. Cyflwynwyd Technocamps ar gyfer Cyfraniad Eithriadol i Ymgysylltu â'r Cyhoedd ac roedden nhw'n falch iawn i ennill y wobr.
Meddai'r Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps:
"Mae'n anrhydedd cael ei amlygu am yr effaith sylweddol a gafodd y Rhaglen Technocamps ar ddisgyblion, athrawon ac ysgolion! Mae'n amser cyffrous i Technocamps wrth inni ddechrau ar waith newydd a ariennir gan Ewrop er mwyn ysgogi, ysbrydoli a chefnogi uchelgais disgyblion i astudio cyfrifiadureg ledled Cymru. Hoffwn ddiolch hefyd i MHA Broomfield Alexander am noddi'r wobr. "
Faron Moller
Yn ogystal, mae pedwar o'r enillwyr categori wedi nodi ar y rhestr fer i'w cyflwyno ar gyfer Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines. Anrhydeddwyd Technocamps i gael ei ddewis fel un o'r pedwar!