Mwynhaodd Technocamps wythnos hwylus yn Eisteddfod yr Urdd eleni yn Llanfair-ym-Muallt. Roedd y stondin yn boblogaidd iawn gyda llwyth o ddisgyblion brwdfrydig o Gymru yn rhoi cynnig ar raglennu ein robotiaid NXT LEGO Mindstorms i ddatrys tasg. Roedd gennym ni hefyd ddisgyblion a rhieni yn ceisio profi eu sgiliau datrys problemau gyda'n gemau cyfrifiadurol a raglennir yn Scratch. Roedd y diddordeb yn ein stondin yn wych ac un uchafbwynt arbennig oedd ymddangos ar ddarllediad byw S4C o'r Eisteddfod ddydd Iau. Roedd yn bleser cynnig y profiadau hyn trwy gyfrwng y Gymraeg i gynifer o siaradwyr Cymraeg ifanc yn y dathliad yn arddangos diwylliant ein cenedl. Wrth siarad am ddiwylliant a'r celfyddydau, yn Technocamps, rydym ar hyn o bryd yn edrych ymlaen at weld creadigrwydd disgyblion wrth iddynt baratoi ar gyfer ein cystadleuaeth roboteg flynyddol, sydd eleni yn seiliedig ar y thema "Artistiaid Awtonomaidd". Ein nod gyda'r thema hon yw ysbrydoli disgyblion i gyfuno'r sgiliau creadigol mewn Cyfrifiadureg a'r celfyddydau ac rydym yn gyffrous iawn i weld y canlyniadau!
Am fwy o wybodaeth, gweler ein llyfryn: TechnocampsRoboticsCompetition2018.pdf
Gallwch gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yma: https://goo.gl/forms/eECWZUp644GfX4RE3