Yn ystod y tymor ysgol hwn, mae dros 2,000 o ddisgyblion o ysgolion Cynradd de Cymru wedi cymryd rhan mewn gweithdai gwyddonol darparir gan Technocamps. Mae’r gweithdai yn trafod cysyniadau gwyddonol bydd y disgyblion yn dod ar draws wrth fynychu cynhyrchiad Eye of the Storm gan theatr na nÓg ar y cyd gyda Chanolfan y Celfyddydau Taliesin.
Mae’r ddrama gerddorol yn cynnwys caneuon gwreiddiol gan enillydd Gwobr Grammy (Thinking Out Loud gydag Ed Sheeran), a chawn ddilyn hanes Emmie sydd raid dewis rhwng ei breuddwyd o fod yn wyddonydd ac edrych ar ôl ei mam.
Mae tynged Emmie am wyddoniaeth a’i diddordeb yn nhrowyntoedd, wedi cyfuno gyda’r gweithdai addysgiadol gan Technocamps yn cynnig ffordd effeithiol, weledol a hwylus o gyflwyno disgyblion Cymreig i’r byd o Wyddoniaeth a Thechnoleg. Nid yn unig ydynt yn datblygu eu sgiliau rhaglennu a gwybodaeth wyddonol, ond hefyd eu gwerthfawrogiad o’r celfyddydau perfformio.
Mae’r cydweithrediad hon wedi cynnig ysgolion ffordd unigryw i gyflwyno’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd ac wedi derbyn adborth cadarnhaol oddi wrth y disgyblion a’u hathrawon.
Dywedodd Mrs Hanson, Pennaeth Ysgol Gynradd Pennard “Rydw i yng nghanol ysgrifennu ein cylchlythyr wythnosol i ddweud wrth y rhieni cymaint wnaeth yr athrawon a’r plant mwynhau eu diwrnod gyda chi ddoe. Gwych! Byddwn wrth ein boddau gyda mwy o hyn!”
Ysgrifennodd Mrs Lingard o Ysgol Gynradd Hendrefoelan atom “Mae pawb wedi mwynhau’r profiad hyd yma â wedi dychwelyd o’u hymweliad yn llawn brwdfrydedd!”
Rydym ni yn Technocamps yn hapus iawn gyda’r positifrwydd ynghylch ein cydweithrediad gyda Theatr na nÓg a byddwn yn argymell i bawb y profiad o weld ei chynyrchiadau.