Ar ddechrau tymor yr Hydref, mae dros 46 o athrawon ledled Cymru wedi cychwyn cwrs DPP achrededig flwyddyn o hyd darparir gan Technocamps.
Mae’r cwrs DPP yn cael ei achredu gan VTCT a bydd yr athrawon yn ennill cymhwyster (QCF) Lefel 3 Tystysgrif Cyfrifiadureg ar gyfer Athrawon. Nod y cwrs yw darparu i athrawon gwybodaeth a sgiliau ar gyfer addysgu cyfrifiadureg a chefnogi’r Fframwaith Cymhwysedd digidol yn eu hysgolion.
Dyma’r drydedd flwyddyn mae’r rhaglen wedi rhedeg, sydd wedi gweld 30 o athrawon yn cyflawni’r cymhwyster yn y gorffennol. Yn wreiddiol darparwyd y cwrs ym mhrifysgol Abertawe yn unig, ond gan fod nifer fawr o athrawon wedi mynegi diddordeb yn ardaloedd eraill, rydym yn awr yn cynnig y cwrs yng ngogledd a Gorllewin Cymru eleni.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar y wefan Technocamps.