Mae'r DVLA yn cynnal Her Codio Genedlaethol Cymru ar gyfer dysgwyr 7 i 11 oed a noddir a chefnogir gan Technocamps, ar y cyd â Code Club, a'r hwb Cennad STEM Cymru, Incredible Oceans, Brake, Y Pedwar lluoedd Heddlu yng Nghymru a School Beat, Diogelwch Ffyrdd Cymru, Y Gwasanaeth Tân a'r Fyddin Brydeinig.
Anelir y gystadleuaeth yn benodol at ysgolion cynradd er mwyn eu hannog i sefydlu clybiau codio, ac mae'r rhaglen Technocamps Buarth Chwarae Cyfrifiadureg ar gael i helpu sefydlu nhw drwy ddarparu gweithdai yn yr ysgol.
Bydd y sialens yn galluogi disgyblion sydd â diddordeb i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, cyfathrebu a gwaith tîm ynghyd â gwella eu gwybodaeth o raglennu cyfrifiadurol mewn modd difyr ac arloesol, a hefyd yn ennill cyfarpar TG werth miloedd o bunnoedd ar gyfer eu hysgolion neu Grwpiau. Gwobr 1af - £3000 o Gyfarpar TG 2il Wobr - £2000 o Gyfarpar TG 3edd Gwobr - £1000 o Gyfarpar TG 2 Gwobr eilradd - £750 o Gyfarpar TG yr un.
Yr her yw adeiladu gêm gan ddefnyddio SCRATCH (iaith godio hwylus) sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim oddi ar y safle. Dylai'r gêm alinio gydag un o'r pedair thema ganlynol:
Thema 1: Adeiladwch gêm sy’n amlygu’r frwydr mae morfilod cefngrwm yn ei hwynebu oherwydd llygredd yn ein Moroedd, yn arbennig oherwydd y gorddefnydd o blastigion a allai arwain at ddifodiad.
Thema 2: Adeiladwch gêm sy’n amlygu’r dilynol – mae’n well bod yn berson dymunol na bod yn fwli, ar-lein neu yn y byd go iawn.
Thema 3: Adeiladwch gêm ynghylch sut olwg fyddai ar y byd os nad oedd unrhyw geir ar y ffordd?
Thema 4: Adeiladwch gêm sy’n amlygu sut all pobl ifanc weld peryglon ac aros yn ddiogel wrth feicio.
I ddysgu mwy am y gystadleuaeth a sut i fynd i mewn, ewch i Wefan Cystadleuaeth Codio DVLA.http://dvlacodechallenge.dvla.gov.uk/