Ar 5 Gorffennaf 2016, tri ar ddeg o athrawon o dde Cymru oedd y garfan cyntaf i lwyddo i ennill Tystysgrif lefel 3 Cyfrifiadura ar gyfer Athrawon a dyfarnwyd gan y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau, a hynny yn rhan o raglen DPP, blwyddyn o hyd, gan Technoteach. Cefnogir y rhaglen Technoteach hon gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol, trwy Lywodraeth Cymru, er mwyn uwchsgilio athrawon fel eu bod yn dod yn hyderus ac yn gymwys i gyflwyno'r cwricwlwm cyfrifiadureg. Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Mae'r cwrs hwn, sy'n cael ei achredu gan yr ASFI (Sgiliau Achrededig ar gyfer Diwydiant) yn cael ei gyflwyno trwy gydol y flwyddyn academaidd (18 sesiwn diwrnod llawn), gyda'r athrawon yn cyfarfod unwaith bob pythefnos i ddatblygu eu dealltwriaeth o amrediad o bynciau cyfrifiadureg, o roboteg i raglennu Python.
Dywedodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps,
“Gwych yw gweld pob un o'r tri ar ddeg athro, a ddechreuodd ar y cymhwyster hwn yn ôl ym mis Medi, yn ennill eu Tystysgrifau haeddiannol. Uchelgais Technocamps erioed fu cefnogi athrawon ar eu teithiau cyfrifiadureg, a hynny trwy ddarparu cyfleoedd uwchsgilio hanfodol ar gyfer athrawon ledled Cymru!"
Faron Moller
"Mae'r cwrs hwn wedi bod yn heriol ar adegau. Fodd bynnag, mae hefyd wedi bod yn hynod werthfawr!" Rwy'n teimlo bod fy nisgyblion eisoes yn elwa ar fy ngwybodaeth gynyddol o gyfrifiadureg.”
Catherine Phillips, Ysgol Dyffryn, Port Talbot
Astudiaeth Achos – Sarah Thomas, Ysgol Gyfun Emlyn
Fel Bennaeth Cynorthwyol mewn Ysgol Uwchradd, rwyf am i'r disgyblion yn fy ysgol cael profiad o'r ochr gyfrifiadureg i TGCh, nid dim ond y defnydd o becynnau swyddfa, sef yr hyn yr oedd y cwricwlwm TGCh wedi tyfu i fod bellach. Wrth edrych o gwmpas am gymorth gyda hyn, tynnwyd fy sylw at Technocamps; a chefais gynnig gan dîm Technocamps un ai i ddod â'r disgyblion i'r brifysgol (ar eu traul hwy), neu i aelod o'r tîm cyflenwi ymweld â ni.
Dyma'r unig sefydliad yng Nghymru y deuthum o hyd iddo a oedd yn barod i uwchsgilio disgyblion ac athrawon fel hyn, a hynny'n rhad ac am ddim. Archebais weithdai ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer dau grŵp blwyddyn i ddechrau, ac nid ydym wedi edrych yn ôl; ers hynny, rydym wedi elwa ar sawl ymgysylltiad â Technocamps, o ran fy natblygiad proffesiynol fy hun ac o ran y cyfleoedd y mae ein disgyblion a'n hysgol wedi eu mwynhau.
Mae'r disgyblion wedi cael eu cyflwyno yng ngweithdai Technocamps i godio trwy Scratch, Python a Greenfoot. Trwy gyfrwng hyn, mae'r disgyblion wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o unigolion yn y brifysgol (yn Athrawon, ac yn fyfyrwyr ôl-raddedig ac israddedig) ar brosiectau cyfrifiadura amrywiol sydd – heb sôn am fod yn bleserus – wedi taflu goleuni ar y cyfleoedd posibl sydd ar gael iddynt o ran gyrfaoedd mewn cyfrifiadura; mae hyn wedi ysgogi nifer ohonynt i fynd ymlaen i astudio cyfrifiadura yng Nghyfnod Allweddol 5 ac yn y Brifysgol.
Roedd gweithgareddau Technocamps hefyd wedi helpu'r disgyblion i weld bod cyfrifiadura yn cael ei ddefnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Credaf fod yr ymweliadau wedi hybu diddordeb y disgyblion, gan fod un o bob pump o'r cohort wedi dewis cyfrifiadureg yn un o'u dewisiadau TGAU, sy'n anhygoel. I gefnogi hyn, mae Technocamps wedi dod i'r ysgol i redeg Gweithdai Python a Greenfoot gyda dosbarthiadau, er mwyn eu paratoi ar gyfer eu gwaith TGAU; heb y cymorth hwn, byddai wedi bod bron yn amhosibl i'r ysgol gyflwyno'r cwrs TGAU cyfrifiadureg newydd.
Yn bersonol, rwyf wedi ennill sgiliau pwysig o fynd i'r gweithdai gyda'r disgyblion. A minnau'n athrawes Mathemateg a TGCh, mae hyn wedi caniatáu i mi weld sut y mae rhywun sydd â chefndir mewn cyfrifiadureg yn addysgu'r cysyniadau sy'n angenrheidiol ar gyfer y pwnc. Mae wedi rhoi syniadau a hyder newydd i mi wrth eu haddysgu. Ar ben hyn, rwyf wedi cwblhau dau gwrs Technoteach, ac ar hyn o bryd rwy'n dilyn cwrs Tystysgrif Cyfrifiadura ar gyfer Athrawon Lefel 3 yr ASFI (FfCCH), sy'n cael ei gyflenwi gan Technocamps. Heb y rhain, ni fyddwn wedi gallu addysgu TGAU cyfrifiadureg i'm disgyblion.
Ac nid wyf ar fy mhen fy hun. Mae Technoteach wedi caniatáu i mi rwydweithio â nifer o athrawon eraill ledled de Cymru, ac mae eu barn wedi bod yr un fath yn union â'm barn i o ran yr effaith gadarnhaol a'r cyfleoedd sydd wedi cael eu creu trwy'r uwchsgilio y mae Technocamps wedi ei roi i athrawon ledled Cymru. Rwyf hefyd yn teimlo y gallwn gysylltu â thîm Technocamps, ac y byddent yno i'm cefnogi, pe byddai arnaf angen cymorth i addysgu unrhyw ran o'r cwrs TGAU.
Unwaith eto, hoffwn bwysleisio y byddai ein disgyblion wedi colli allan ar gymaint o brofiadau newid bywyd pe na bai athrawon fel fi wedi cael ein cyflwyno i Technocamps, ac wedi elwa ar hynny. Ni fyddem chwaith wedi meddu ar y datblygiad proffesiynol angenrheidiol i gyflwyno’r cwrs TGAU newydd yn ein hysgolion. Mae Technocamps wedi rhoi i athrawon, ledled Cymru, yr uwchsgilio angenrheidiol i'w galluogi i gofleidio'r newidiadau newydd yn y cwricwla cyfrifiadureg, ynghyd â'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, a hynny ar hyd a lled Cymru.
“Rwyf wedi elwa mewn sawl ffordd ar Technocamps, gan gynnwys trwy gyfrwng gweithdai yn fy ysgol cyfrwng Cymraeg, sydd wedi cael eu cyflenwi yn Gymraeg, gan ddefnyddio adnoddau Cymraeg. Y cwrs hwn yw'r cyfraniad diweddaraf – a'r gorau i mi'n bersonol – y mae Technocamps wedi'i wneud tuag at f'uchelgais i ddarparu sylfaen gyfrifiadureg gadarn i'm disgyblion.”
Mark Morris, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin
Mae taflen hyrwyddo gyda gwybodaeth ychwanegol ar gael yma: https://www.technocamps.com/cy/news/ASFITeachers16_CY.pdf