================================================== Global Page Section Start ================================================== -->

LEGO

Mae’r LEGO Mindstorms NXT yn becyn roboteg rhaglenadwy y gellir ei ddefnyddio i greu nifer o robotiaid gwahanol a all gyflawni amrywiaeth o dasgau. Yn ystod y gweithdai hyn, cewch adeiladu’ch robotiaid LEGO Mindstorms eich hunain, wedyn gallwch eu rhaglennu i gyflawni cyfres o dasgau.

Mae’r gweithdai hyn yn rhoi trosolwg o galedwedd roboteg ac offer rhaglennu, yn ogystal â chyflwyno cymhwysiad iPad am ddim o’r enw Cargobot er mwyn helpu myfyrwyr i ddysgu am gyfarwyddiadau dilyniannol.

Dewch yn Rhan

Oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu gweithdy Technocamps ar gyfer eich ysgol neu goleg? Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai yn seiliedig ar feddwl cyfrifiannol i gefnogi myfyrwyr a staff trwy CA2 i CA5. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Cysylltu â'r Tîm