Mae Arduino yn ficro-prosesydd bach sy’n eich galluogi i wneud cit electronig neu brototeip robotig a all symud, neu ryngweithio â’r amgylchedd o’i gwmpas. Gallwch ddysgu am electroneg trwy adeiladu’ch cylchedau a’ch citiau eich hun. Gallwch hefyd raglennu’ch Arduino gan ddefnyddio’r Arduino IDE i fod yn unrhyw brosiect y dymunwch, o robot sy’n symud i orsaf dywydd fach!
Mae Technocamps wedi datblygu sawl gweithdy Arduino, lle gall disgyblion ddefnyddio dyfais Arduino wedi’i gosod mewn ffabrig neu wrthrychau a chreu eu technoleg wisgadwy eu hunain neu ddefnyddio rhyngwyneb llusgo a gollwng “Scratch” i gyfarwyddo’r Arduino i wneud pethau!
Mae hefyd adnoddau i'ch helpu gyda Chit Arduino Diwrnod Agored Prifysgol Abertawe!