< --================================================== Global Page Section Start ================================================== -->

App Inventor

Mae App Inventor yn ffordd gyflym, hawdd ac am ddim i unrhyw un greu app Android, heb angen profiad o raglennu.

Gallwch ddylunio llawer o fathau o apps – o bosau i gemau!

Rydych yn dechrau trwy ddylunio’ch app Android ar eich cyfrifiadur gan ddefnyddio amgylchedd rhaglennu llusgo a gollwng ar-lein. Gallwch wedyn ddechrau ychwanegu ymarferoldeb at eich app gan ddefnyddio’r Blocks Editor y gallwch ei gysylltu â’ch ffôn, neu ddefnyddio’r efelychydd mewnol i weld sut mae’ch app yn edrych!

Pan fyddwch wedi’i ddatblygu, gallwch ei lawr lwytho’n syth i’ch ffôn am ddim!

Dewch yn Rhan

Oes gennych chi ddiddordeb mewn trefnu gweithdy Technocamps ar gyfer eich ysgol neu goleg? Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithdai yn seiliedig ar feddwl cyfrifiannol i gefnogi myfyrwyr a staff trwy CA2 i CA5. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

Cysylltu â'r Tîm