Seren datblygu gwe yn cynrychioli’r DU yn rownd terfynol “WorldSkills”

adminCystadleuaeth, Digwyddiad, Newyddion, Newyddion a Digwyddiadau

Cynrychiolodd Alfie Hopkins, sef datblygwr gwe ifanc Cymraeg o Lanelli, y Deyrnas Unedig yn rownd derfynol WorldSkills yn Abu Dhabi yr Hydref hwn.

Mae WorldSkills yn ddigwyddiad blynyddol lle gwelir cystadleuwyr o wledydd ar draws y byd yn cystadlu mewn amrywiaeth o ‘sgiliau’ i ennill y teitl pencampwr. Ethos Worldskills yw “Gwella’r byd gyda phŵer sgiliau”.

Gwnaeth Alfie dechrau ymgysylltu gyda Technocamps pan oedd ond yn 14 mlwydd oed pan fynychodd sesiwn Bootcamp ar ddatblygu iOS. Ar y pryd, dywedodd Alfie “Doeddwn i ddim yn meddwl am greu gemau iOS ond ar ôl Technocamps gwnaeth e wir fy ysbrydoli i wneud fwy.”

Mae Technocamps wedi cefnogi uchelgeisiau Alfie trwy ddarparu hyfforddiant pwrpasol yn targedu’n benodol yr elfen Ochr-Gweinydd y gystadleuaeth.

Yn anffodus, ni chyrhaeddodd Alfie y safleoedd medalau ond mi wnaeth e arddangos perfformiad gall tîm y DU ymfalchïo ynddo.